Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD GYDAR HWN Y MAE YK "ANNIBYNWR" WEDI EI UNO. îButotngìiîiiaetij. ÜNOLIAETH DYSGEIDIAETH YR YSGRYTHYEAU. "Duw sydd un." " Ond y mae efe yn un, a phwy a'i try efT' Nid yw gweithredoedd yr Arglwydd yn y greadigaeth, ac yn ei ragluniaeth, ond gwahanol ranau o un cynllun mawr. Felly hefyd y mae ei lywodraeth foesol dros greaduriaid rhesymol, a'i drefn ogoneddus i gadw pechaduriaid, yn rlianau eraill o'r un cynllun gogoneddus. " Yr Arglwydd a wnaeth bob peth er ei fwyn ei hun." Efe ei hun yw canolbwynt yr oll a wnaeth, ac a wna efe. Byddai amcan is nag ef ei hunan yn annheilwng o Dduw: " Canys o hono ef, a thrwyddo ef, ac iddo ef, y mae pob peth." Yn awr, gan fod Duw yn un, a gwahanol ranau ei ffyrdd rhyfeddol yn rhanau o un cynllun, yr hwn sydd a'i Alpha a'i Otnega ynddo ef ei hunan; a chan fod yr ysgrythyrau yn ddatguddiad oddiwrth Dduw i ddynion, gyda golwg ar ranau o'i gynllun mawreddog, gallwn yn naturiol ddysgwyl fod cysondeb a cliydgordiad perffaith yn y Beibl i gyd; ac wrth chwilio i'r mater, gwelir yn eglur mai felly y mae. Mae y cysondeb y cyfeiriwyd ato yn deffro meddwl ystyriol, ac yn ei lenwi â golygiadau uchel am y Beibl. Aeth un cant ar bymtheg o flynydd- oedd heibio wedi dechreu ei ysgrifenu, cyn iddo gael ei orphen. Ysgrifen- wyd rhanau o hono mewn gwahanol wledydd, a chan ddynion tra gwahanol i'w gilydd o ran eu sefyllfaoedd mewn bywyd; rhai o honynt yn frenhin- oedd, rhai yn offeiriaid, rhai yn fugeiliaid, rhai yn bysgotwyr, rhai yn llywyddion a gwladweinyddwyr, un yn dreth-gasglwr, un yn feddyg, ac un arall, a'r penaf o ysgrifenwyr y Testament Newydd, yn wneuthurwr pebyll. Ysgrifenwyd rhanau o hono ar deithiau yn Arabia ac yn Ewrop, mewn rhyddid yn Nghanaan, ac mewn caethiwed yn Babilon, Rhufain, a Phat- mos. Yr oedd yr ysgrifenwyr yn amrywio llawer oddiwrth eu gilydd o ran talentau, dysgeidiaeth, dygiad i fyny, ac arferion. Er hyny oll, y mae cysondeb perffaith rhwng yr oll a ysgrifenasant. Mae y cwbl yn bur fel goleuni yr haul, ac yn goeth fel natur ar ei goreu. Ceir fod llawer o feddyl- dclrychau y Beibl uwchlaw dim a allasai dynion nac angylion byth ddyfod Mai. iR7i