Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: GYDAR HWN Y MAE YB "ANNIBYNWR" WEDI EI UNO. ButoingtJlHaetfj. CYFAEFODYDD PREGETHU. Mae pregethu yr e<mgyl, a chyhoeddi ewyllys ddatguddiedig Duw i ddynion, yn ordinhad ddwyfol. Perthynai i oruchwyliaeth Moses yn gystal ag i'r oruchwyliaeth bresenol. Yr oedd Dafydd a Solomon yn bregethwyr. Pregethodd y prophwydi lawer. Gwnaethpwyd llawer o waith da, y pery ei eífeithiau yn dragywydd, yn yr hen amseroedd, drwy ffolineb pregethu. Ond daeth pregethu i wisgo agwedd newydd, ac i feddu pwysigrwydd, Dywyd, a dylanwad newydd, dan oruchwyliaeth y Testament Newydd. üaeth Ioan Fedyddiwr. yn ysbryd a nerth Elias, allan o ddiffaethwch Judea, i bregethu bedydd edifeirwch, er maddeuant pechodau, ac ysgydwodd yr holl wlad, a phob dosbarth o?i mewn, trwy ei athrawiaeth finiog a grymus, fel yr ysgydwir coedwig gau nerth y corwynt. Ni welsid y fath nerthoedd yn Judea er's cannoedd o flynyddau, os buasai y fath erioed o'r blaen. Yn* mhen ychydig o fisoedd ar ol i Ioan ddechreu pregethu, dyma unt mwy a grymusach nag yntau yn ymaflyd yn y gorchwyl. Beth bynag oedd dawn a gallu y Bedyddiwr fel pregethwr, a pha beth bynag oedd rhagor- iaethau yr apostolion, ac eraill o enwogion gwahanol oesoedd, Ies'u Grist, yn ddiau, ydyw Tywysog y pregethwyr, a Brenin yr areithfa. " Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn." Wedi ei adgyfodiad, anfonodd ef ei apostolion allan i'r holl fyd, i bregethu yr efengyl i bob creadur, ac addawodd fod ei hunan gyda hwy, a'r rhai a'u dilynent yn yr un gwaith, bob amser hyd ddiwedd y byd. Cyfododd Crist bregethu i fri ac urddas na pherthynai iddo yn flaenorol. Mae aberthu wedi darfod am byth; ond y mae pregethu i barhau hyd ddiwedd amser; ac y mae holl nerth meddyliau a galluoedd dynion i gael ei alw allan at y gorchwyl o bregethu yr efengyl dan yr oruch- wyliaeth hon. Mae defodau wedi cilio draw i'r cysgodioa, a phregethu wedi dyfod i'r safle anrhydeddusaf a gafodd erioed. Myn rhai fod tymmor pregethu bron a dyfod i'r pen, ac mai yr argraff- wasg a'r ysgolion sydd i gael eu defnyddio bellach yn lle yr areithfa i gario yn mlaen amcanion Cristionogaeth tuag at y byd. Prin y mae yn angen- rheidiol i ni ddywedyd nad yw y cyfryw yn deall ond ychydig am y natur Ionawb, 1871. a