Skip to main content

Y DYSGEDYDD: gyda'r hwn y mae yr "annibynwr" wedi ei uno. BYWYD CREFYDDOL, YN EI GYFFYRDDIAD A GWAHANOL SYNIADAU PÜBLOGAIDD YR OES.* Mae bywyd crefyddol yn Mhrydain Fawr—Cymru, Lloegr, ac Ysgotland— gyda'i chyd-drefniad rhyfeddol, ei rhyddid mawr, ei gweithgarwch dibaid, os nid trystfawr, yn gwahaniaethu yn ddirfawr oddiwrth grefyddoldeb meddyliol a myfyrgar yr Almaen. Yn Itali, lîe mae creíÿdd wedi ei thori ymaith agos yn llwyr oddiwrth fy wyd moesol, yr hon, i radclau helaeth, sydd yn bwnc o syniad, dengys gyferbyniad hyf i Gristionogaeth rydd. weithiau sarug, ac ymarferol America. Mae llawer o'r gwahaniaeth, mae'n ddiau, i'w briodoli i'r genedl, ac edrych arni fel maes i'r hwn mae'r hâd da yn cael ei daflu; ac y mae llawer o'r gwalianiaeth hefyd i'w briodoli i'r driniaeth a'r gwrteithiad cyifredinol, yr ymarferiaàau cymdeithasol, a'r testunau, y rhai a elwir genym ni fynychaf gwareidd-dra, hyny yw, nid dillad gwychion, gwinoedd melus, a digonedd o arian; ond coethiant, gwrteithiad, dysgeid- iaeth, a llywodraeth pobl yn teilyngu cael eu galw yn wareiddiol. Yn awr, y mae yn ddiammheu ein bod ni fel cenedl yn hawlio cael ein galw yn genedl wareiddiedig, a bod hyny, i raddau helaeth, yn rhoddi lliw ar ein bywyd crefyddol. Ni a allwn yn hawdd wahaniaethu prydweddau amlycaf crefydd ein dyddiau ni, wrth eu cyferbynu â'r pethau arweiniol yn nghref- ydd ein hynafiaid. Cymerer crefyddwr cyfiredin ein dyddiau a'n gwlad nij gwybydder ei syniadau, dealler ei ysbryd, sylwer ar ei ddefosiynau yn ei gyflawniadau crefyddol, a chwi ellwch heb anhawsder ei gyferbynu â Christion cyffredin y dyddiau aethant heibio. Mae y naill yn fwy athraw- iaethol ei olygiadau, yn fwy tanbaid a thanllyd ei deimladau a'i ddefosiynau, yn fwy ymroddol i hunan-ddysgyblaeth ac ymddygiad duwiol. Mae y llall * Traddodwyd yr aracth hon yn un o gyfarfodydd yr Undeb Cynnulleidfaol, yr hwn a gynnaliwyd yn Plymouth, yn mis Hydref diweddaf, gan y Parch. J. Hutcheson, gweinidog ieuanc yn Ashton-under-Line, swydd Lancaster, a chymerais y drafferth o'i chyfieithu, gan obeithio iddi fod o fawr les i'm cydgcnedl; ac os tybiwch hi yn deilwng o le mewn rhyw gẁr o'r Dysgedyhd, wele hi at eich ewyllys.—J. J., Abermaw.