Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD gyda'r hwn y mae yr "annibynwr" wedi ei uno. Butoíngìrtfiaetíj. LLYFE GENESIS, DIWEDD YR HEN FYD. Y flwyddyn 1657 o oed y byd oedd blwyddyn y diluw, ac oddeutu blwyddyn y parhaodd y trychineb mawr ac ofnadwy hwnw. Mae rhai amseryddwyr yn golygu fod yr adeg o greadigaeth dyn hyd foddiad y byd, yn liŵy na hyny; ond dyna yr amser yn ol yr ysgrythyrau sydd yn ein dwylaw- ni, ac nid oes dim yn cael ei ennill drwy wneud y cyfnod yn hŵy. Beth a allai fod rhifedi dynolryw ar y ddaear pan ddaeth y diluw, nid yw yn hawdd cael allan i foddlonrwydd; ond tebygol eu bod yn gyfyngedig i Asia—cryd dynoliaeth, rhanau bychain o Affrica, ac ychydig o leoedd eraill. Yr oedd dau beth yn milwrio yn erbyn lluosogiad helaeth ar drig- olion yr hen fyd, sef, byrder ei barhad, a'r trais a'r gorthrymder oedd y pryd hwnw ar y ddaear. Ac heblaw hyny, nid yw yr hanes ysgrythyrol yn ein dysgu fod y lluosogiad yn gyfìym hyd yn nod yn nheulu Seth, hiliogaeth yr hwn yn ddiau oeddynt yn y sefyllfa fwyaf manteisiol i luosog- iad cyflym o bob dosbarth oedd ar y ddaear yn y cynfyd. Gwelir yn "Llyfr cenedlaethau Adda," mai ychydig yw nifer y cenedlaethau hyny mewn ychwaneg nag un cant ar bymtheg o fìynyddoedd. Yr ydym yn meddwl, ar y cyfan, nad oedd rhifedi dynolryw, pan ddaeth y diluw, mor lluosog ag y tybir yn fynych gan rai ei fod. Er i ddynoliaeth gael pob mantais yn ei dechreuad, a bod pob lle i gredu fod Adda ac Efa wedi cael eu hadferyd i ffafr y Brenin mawr yn fuan iawn wedi eu cwymp; er fod gan Dduw ei eglwys ar y ddaear yn y cynfyd, a bod adfywiad cryf ar grefydd wedi cymeryd lle yn nyddiau Enos, ac y ceir fod amryw o ddynion nodedig am eu duwioldeb wedi gwneud eu hymddangosiad yn yr eglwys, o bryd i bryd; etto, ymddengys fod hiliogaeth Cain o'r dechreuad yn ddyeithr i Dduw, ac er eu holl fedrusrwydd yn y celfyddydau, eu bod yn annuwiol, ac yn cynnyddu mewn annuwioldeb drwy yr oesoedd, ac iddynt fod yn foddion i lygru hiliogaeth Seth, i raddau helaeth, nes oedd yr holl ddaear, gydag ychydig iawn o eithriadau, yn un domen o lygredigaeth, yn mhell cyn amser y diluw. Tachwedd, 1870. x