Skip to main content

Y DYSGEÜYDD «m>.V R HW.N' Y MAE YR " AXNIBYNWR" WEDI EI UNO. Butotmjîiìnaetf). Y GORUCHAF YN LLYWODRAETHU YN MRE- NHINIAETH DYNION. Pynciau pwysig yn mysg erthyglau ffydcl dynion uniongred yw y rhai canlynol:—Fod y Duwdod yn bodoli o angenrheidrwydd, ac o dragwyddol- deb. Fod pob creadur yn bodoli oblegid i Dduw ewyllysio ei fodolaeth, a'i ddwyn i focl. Fod y Duwdod yn tueddu i fod, a phob creadur yn tueddu i beidio bodoli; ac mai i'w ddiddymdra dechreuol y disgynai, oni b'ai fod Duw yn ei gynnal ìrewn bodolaeth yn barhaus. Fod pob creadur, gan hyny, yn hollol ymddibynol ar Dduw, a'r holl greadigaeth yn ei law ef, a than ei awdurdod yn hollol a chyflawn. Llywodraethwr yw y Goruchaf. Mae ei frenhiniaeth ef yn eang, ac yn llywodraethu ar bob peth, gweledig ac anweledig, materol ac ysbrydol. Mae ei lywodraeth ef yn mhob man; yn y meddwl dynol yn gystal ag ar elfenau anian; ar holl amgylchiadau y byd hwn yn gystal ag amgylchiadau y drydedd nef; ar y drwg a'r gwrthryfelgar yn gystal ag ar y da a'r ufudd i'w ewyllys. Trown ni ein golygon y fforcld a fynom, llywodraeth gadarn Duw a ganfyddwn yn mhob lle, ac ar bob peth. Y mae deddf i'r gwlaw, a deddf i'r môr, a deddf i'r ffynnonau a'r aíonydd. Mae holl symudiadau y bydoedd dan lywodraeth deddfau cedyrn a pharhaol. Mae i bob gwelltyn a blodeuyn, pob llysieuyn a phren, eu cyfreithiau. Mae greddfau digyfeil- iorn, heblaw deddfau cyffredin natui', yn llywodraethu ymrwyfiaid y llwch, adar yr awyr, anifeiliaid y maes, bwystfilod yr anialwch, a physg yr afon- ydd a'r moroedd. Mae dyn yn ddeiliad llawer o ddeddfau anhyblyg. Ceir ef dan ddeddfau cyffredin natur, fel creaduriaid eraill, dan deyrnasiad greddfau, dan reolaeth deddfau cywrain y meddwl, a than y ddeddf foesol, fel rheol antíaeledig ei holl ymarweddiad. Mae yn rhyddewyllysiwr ac yn rhyddweithredwr; ond y mae ei ryddicl yn rhyddid dan holl ddeddfau ei natur. Nid rhyddid heb rwymau yw rhyddid creadur cyfrifol i Dduw. Mae ei gyfrifoldeb yn awgrymu fod rhwymau yn gystal a rhyddid yn perthyn iddo. Heblaw y pethau yna oll, y mae dyn dan ddeddfau teulu- aidd, dinesig, a gwladol. Mae wedi ei gylchynu â chyfreithiau. Htdref, 1870. t