Skip to main content

Y DYSGEDYDD: gyda'r hwn y >iae yk "annibynwr" wedi ei uno. W> Jftacs arenatiol. CENADON ENWOG. VII. HENRY MARTYN. Priodol y dywedwyd, mewn cyfeiriad at y dyn ieuanc athrylithgar, enw yr hwn a welir uwchben ein hysgrif bresenol, fod ei fywyd yn un o'r gwaddoliadau ardder^hocaf a gafodcl y byd o gwbl, mewn amseroedd diweddar. Ni chyrhaeddodd lawn cymaint o enwogrwydd ag a gyrhaedd- wyd gan Carey ac eraill y buom yn sylwi ar eu hanes, oblegid yr oedd efe yn ei fedd cyn bod yn ddeuddeg ar hugain oed. Etto, y mae rhywbeth yn rhyfedd, îe, yn rhamantus hefyd, yn hanes Henry Martyn, rhagor braidd un cenadwr y gallwn fecldwl am dano. Yr oedd ei ysbryd mor rhydd oddiwrth bob teimladau hunangeisiol, ei awyddfryd i lesâu eneidiau mor angerddol, ei egniadau i helaethu terfynau tir Emmanuel mor synfawr, a chyda y cyfan, yr oecld ei ymarweddiad ef mor ddifrycheulyd a santaidd, fel y teilyngai gael ei restru gyda dosbarth uwch o grefyddwyr, nag y deuir i gyfarfyddiad â hwynt, oddieithr yn dra anfynych. Pe gwelid llawer o rai tebyg iddo yn cyfodi i fyny yn yr eglwysi y dyddiau hyn, naturiol fyddai credu fod gwawr y milflwyddiant ar fin ymdori ar y byd. Ganwyd Henry Martyn yn Truro, Cornwall, yn y fiwyddyn 1781. Trwy ei dalentau a'i ddiwydrwydd, llwyddasai ei dad i ymddyi'chafu i sefyllfa uchel yn y byd. Fel y treiglai blynyddoedd yn mlaen, gwelid fod Henry yn perchenogi galluoedd o radd uwch na chyffredin, ac yr oedd hyn yn annogaethol i'w dad benderfynu rhoddi iddo addysg o'r fath oreu. Yn ganlynol, wedi iddo yn gyntaf fwynhau y manteision penaf oddeutu cartref, fe'i hanfonwyd, pan yn unarbymtheg oed, i un o Golegau enwog Caergrawnt. Sylwid yno ei fod yn fachgen caredig iawn pan mewn natur dda; ond os cyffroid ef, elai i dymherau pur ddrwg ambell waith. Trefnodd Rhaglun- iaeth fod iddo gael yn mlilith ei gymdeithion, o leiaf, un llanc ieuanc o anian grefyddol iawn, a bu ei gydnabyddiaeth â hwn o fwy o lesâd iddo nag y gallwn yn awr ei fynegu. Yr oedd ei chwaer ieuangaf hefyd yn nodedig o ran crefyddolder ei hysbryd, ac ymddengys mai drwy ei chy- nghorion a'i rhybuddion caredig hi, yn benaf, y dygwyd ef i benderfynu cyflwyno ei hunan i'r Arglwydd. Pan oddeutu pedairarbymtheg oed, bu farw ei dad yn dra disymwth, ac eífeithiodd yr amgylchiad er dyfnhau ar ei Awst, 1870. p