Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: oyda'r hwn y mae yr "annibynwr" wedi ei üno. ButoinflîJîJiaetìj. LLYFR GENESIS, GOLWG ARNO O SAFLE ATHRAW YN YR YSGOL SABBATHOL. Dyma. y llyfr hynaf yn y byd, oddieithr llyfr Job. Gallai fod hwnw wedi ei ysgrifeuu o'i flaen; ond y mae hyny heíÿd yn bwnc y mae amrywiaeth barn arno. Rhoddir y geiriau cyntaf ynddo, " Yn y clechreuad," yn enw arno yn yr Hebraeg. Galwyd ef yn Genesis, sef, cenedliad, gan gyfîeithwyr yr Hen Destauient i'r iaitli Roeg, am ei fod yn traethu hanes cenedliad, neu ddechreuad y nefoedd a'r ddaear, pan greodd Duw hwynt; a chenedl- aethau Adda, a Noah, a'r patrieirch wedi y diluw. Moses a'i hysgrifenodd. Mae Iuddewon, Groegwyr, a Christionogion, yn cytuno ar hyny. Pa bryd yr ysgrifenodd Moses ef, ni ddywedir wrthym. Y peth tebycaf yw, iddo ei ysgi'ifenu wedi ei osod yn llywydd ar bobl yr Arglwydd, ac mai cynnyrch ei feddwl ysbrydoledig, yn auialwch Arabia, yw y llyfr rhyfeddol hwn, yn gystal a'r pedwar eraill o lyfrau y Beibl a briodolir iddo. Mae y pum' llyfr cyntaf yn yr ysgry thyrau yn cael eu cyfrif iddo ef gan y prophwydi, yr Arglwydd Iesu, a'r apostolion. Pennod ryfedd ac aruthrol yw y gyntaf yn y llyfr hwn. Cynnwys hanes resymol, ond un ryfeddol iawn, ain ddechreuad pethau. Saifyradnod gyntaf oll ar ei phen ei hunan, a dyweó" wrthym fod Duw wedi crëu y nef- oedd a'r ddaear yn y dechreuad. Pa bryd oedd hyny, nid yw Moses yn cynnyg dywedyd; ond pa bryd bynag ydoedd, Duw a'u creodd hwynt. Mae Moses yn cymeryd bodolaeth Duw yn ganiataol, fel pwnc addefedig yn gyffredinol, yr hwn nad oedd eisieu ei brofi. Felly hefyd y gwna yr ysgrif- enwyr santaidd erail'. Dywedant oll mai Un Duẃ sydd, mewn gwrthwyn- ebiad i aml-dduwiaeth; ond eymerir bodolaeth yr un Duw yn ganiataol, fel peth wedi ei brofi gan ei weithredoedd yn natur a rhagluniaeth: " Canys ei anweledig bethau ef, er creadigaeth y byd, wrth eu hystyried yn y pethau a wnaed, a welir yn amlwg; sef ei dragwyddol allu ef a'i Dduwdod, hyd onid ydynt yn ddiesgus," Rhuf. i. 20; " Y nefoedd sydd yn datgan gogon- iant Duw, a'r fíurfafen sydd yn mynegi gwaith ei ddwylaw ef," Salm xix. 1. Mae y greadigaeth yn profi bodolaeth y Creawdwr; y gwaith yn dywed- yd am y gweithiwr; yr etteithiau yD traethu am yr achos o honynt, yn y modd mwyaf pendant. Yr un modd, profa trefn rhagluniaeth, a llywodr- aethiad pob peth, fodolaeth Duw: " Er hyny, ni adawodd efe mo hono ei Mai, 1870. i