Skip to main content

Y DYSGEDYDD: cyda'r hwn y mae yr "annibynwr" wedi ei üno. Uiubjmgîiîríaetf). GWIEFODDOLIIWYDD CYNNALIAETH CREFYBD CYN YMDDANGOSIAD CMST YN Y CNAWD. Amser yn ol, gwnaethom ychydig o nodiadau byrion ar y mater hwn yn ei gysylltiad â'r cyfnod oedd cyn cyhoeddiad y ddeddf ar Sinai; Yn awr, gwnawn ychydig o sylwadau ar yr un pwnc yn ei gysylltiad â goruchwyl- iaeth Moses. Bu yr Israeliaid yn yr Aifft oddeutu 215 mlynedd, ac amlhasant yn ddirfawr tra y buont yno, er yr holl erlid a'r gorthrymu a fu arnynt yn nhŷ y caethiwed. Ymddengys eu bod wedi ymlygru cryn lawer yn nhir Ham, trwy eu cysylltiad â thrigolion eulunaddolgar y wlad, a diau fod crefydd bur ac ysbrydol yn isel a gwywedig yn eu plith er's amser maith cyn i'r Arglwydd ddisgyn i'w gwaredu. Yr oedd Jacob, a Joseph a'i frodyr, wedi meirw er's talm, a'r caethiwed yn trymhau beunydd, ac nid oedd neb o ddylanwad mawr mewn crefydd yn ymddangos yn eu mysg dros lawer 0 flynyddoedd. Er hyny, yr oedd perchenogion ôÿdd yn eu plith yma a thraw, megys rhieni Moses a'u cyffelyb; ac er fod y berth yn llosgi yn dân, yr oedd etto heb ei difa. Yr oedd ffurf yr ymadroddion iachus—yr addewidion a wnaethid i'r tadau—gan yr Israeliaid yn yr Aifft. Gwyddent y rhagfyn- egiadau am ddyfodiad y Gwaredwr oedd yn mhlith eu henafiaid. Dalient i fyny yr addoliad patriarchaidd a gawsent oddiwrth yr oesoedd gynt. Yr oedd cyfammod yr enwaediad, "insel cyfiawnder y ffydd," yn cael ei gadw ganddynt: "Canys yr holl bobl a ddaethent allan (o'r Aifft) oedd enwaed- edig," Jos. v. 4, 5. Yr oedd yr enwaediad yn dystiolaeth yn eu cnawd o drefn Duw i gyfiawnhau pechaduriaid, ac o'r angenrheidrwydd am farw- eiddio pechod a byw yn santaidd. Cyn gadael o honynt dŷ y caethiwed, ordeiniwyd iddynt fel cenedl gadw y Pasg a gollyngiad y gwaed; ac yr oedd y gwasanaeth hwnw yn gysgod arbenig o Iesu Grist—"Crist ein Pasg ni." Ymadawsant o'r wlad dan argrafnadau dyfnion o fawredd gallu, gras, a ffyddlondeb Duw Israel, fel yr hwn sydd yn cadw cyfammod â'i bobl, ac yn ddialydd ar eu gelynion. Er nad oes crybwylliad penodol am y Sabbath yn y tymmor hir o gread- îgaeth y byd hyd y dyfodiad allan o'r Aifft, etto y mae llawer o awgrym- iadau ei fod yn cael ei gadw cyn ac wedi y diluw gan bobl grefyddol yr oesoedd; a chyn cyrhaeddyd o Israel i Sinai, ceir cyfeiriad ato, Exod. xvi. 23—30, fel sefydliad dwyfol oedd yn mhlith y genedl yn flaenorol. Heblaw Ebrill, 1870. g