Skip to main content

Y DYSGEDYDD oyda'r hwn y mab yr "annibynwr" wedi ei uno. ¥r &ci)0S. CYFAEFOD CHWAETEEOL ARFON. ANERCHIAD A DDAELLENWYD YN SARON, GEft CAERNARFON, ION. 11, 1870. Y mae ein hegwyddorion enwadol yn cael eu deall gan y cylioedd yn lled dda, ar y cyfan, yn y dyddiau hyn. Po fwyaf a fyfyrier, a ysgrifener, a ddarllener, ac a ddadleuer yn eu cylch, niwyaf ffafriol fydd eu derbyniad gan bob gradd. Y perygl mwyaf ydyw iddynt gael eu dodi dan lestr, ac felly attal eu llewyrch, yn lle dodi eu goleuni ar y bwrdd eglur, mewn canhwyllbren, fel y byddo i'w pelydr lewyrchu i bawb mewn dysgleirdeb ar bob llaw. Etto, ni ellir dysgwyl i bob un, hyd yn nod yn ein mysg ni ein hunain, gydweled lygad yn llygad, yn mhob peth amgylchiadol, perth- ynol i'r gwaith; er hyny, dysgwylir bellach i bawb gydoddef, lle nad ellir cwbl gydweled, mewn cariad, er mwyn yr achos mawr, a bod yn ddyfal i gadw undeb yr Ysbryd yn nghwlwm tangnefedd. Y mae y sylw hwn yn gymhwysiadol iawn at y Cyfarfodydd Chwarterol. Y mae yr Henaduriaethwr yn beio Annibyniaeth, am na fedd ddigon o gydymdeimlad âg eraill; ac y mae yr Annibynwr, yntau, efallai, yn llawn mor barod i feio Henaduriaeth, am na fedd ddigon o ryddid i bawb weith- redu fel y barnont oreu eu hunain, yn ol yr esboniad a allant roddi ar air Duw, heb fod yn gyfrifol i neb arall, ond yn unig i'r Hwn ag y mae ganddo hawl i orsedd y galon. Sefydliad diweddar ydyw hwn yn ein plith. Y mae yr egwyddor a gefnogir ynddo, wedi bod mewn ymarferiad er's llawer o amser bellach, mewn rhyw ffurf neu gilydd, mewn Cymanfaoedd, mewn cyfaríbdydd blynyddol ac achlysurol, mewn urddiadau ac agoriad capeli, &c, er nad mewn ffurf mor rheolaidd a sefydlog a'r hyn a gynnygir i sylw yr eglwysi drwy y cynllun hwn. Ni feddwn yr un ddeddf yn ein trefniant yn ein rhwymo i unffurfiaeth, heb ganiatâu cyfnewidiad na gwellhad mewn pethau amgylchiadol, yn ol fel y byddo manteision pethau yn ymddangos ar y pryd. Y mae y cyfan mewn ymadroddion agored, yn ein cyfarwyddo, hyd y gallom, i "wneud pob peth yn weddus ac mewn trefn." Nid oes ond ychydig iawn yn ein mysg, a hyny megys eithriad yma a thraw, ag sydd yn attal eu cydweithrediad oddiwrthym yn awr. Os oes rhywbeth yn yr egwyddor o'u cynnal yn taro yn erbyn annibyniaeth yr eglwysi a'r cynnulleidfaoedd, ac yn yspeilio unrhyw ddosbarth neu frawd- oliaeth o'u hiawnderau a'u hawliau cyfreithlon, ni ddylid eu pleidio, ond Mawrth, 1870. e