Skip to main content

Y DYSGEDYDD: gyda'r hwn y mae yb "annibynwr" wbdi ei uno. Butomstföiaetf). CORNELIUS Y CAFWRIAD. ACTAU X. 1-8. Mae yn arferiad gan rai i ddweyd fod dyn yn greadur amgylchiadau, nad oes gan neb ddim help ei fod yr hyn ydy w—fod pawb, mewn gair, yr hyn y maent wedi eu gwneud. Mae hon yn hen gŵyn yn y byd; cawn hi yn cael ei mynegu mewn gwahanol flyrdd o Adda hyd yn awr, a'i hamcan ydyw rhyddhau dyn oddiwrth ei gyfrifoldeb. Pan ofynodd Duw i Adda a ydoedd efe wedi bwyta o ffrwyth y pren gwaharddedig, atebodd yn uniongyrchol, "Y wraig a roddaist gyda mi, hi a roddodd i mi o'r pren, a mi a fwyteais." Cystal a dywedyd, tra yr ydoedd yn byw gyda'r wraig—y wraig a roddasid iddo gan Dduw—fod yn anmhosibl iddo beidio bwyta o ffrwyth y pren. Pan ofynodd Duw i'r wraig drachefn,- "Paham y gwnaethost hyn1?" ei hatebiad hithau oedd, "Y sarph a'm twyllodd, a bwyta a wnaethum." Cystal a dywedyd, tra yr ydoedd y sarph gyfrwysgall yn yr ardd, ac yn defnyddio pob moddion i'w hudo, fod yn anmhosibl iddi wrthsefyll y demtasiwn. Y mae plaid'o athronwyr ag ydynt yn dal yr un athrawiaeth etto, gwadant íbd dyn yn meddu ar ewyllys rydd, ac o ganlyniad haerant fod cymeriad dyn i'w briodoli yn hollol i'r amgylchiadau dan ba rai y dygwyd ef i fyny. Pe gwir hyn, byddai daioni yn anmhosibl, a drygioni yn anmhosibl hefyd; y fíbrdd gywiraf i ddynodi y dyn da fyddai ei alw yn ddyn lwcus, a'r ffordd gywiraf i ddynodi y dyn drwg fyddai ei alw yn ddyn anlwcus; oblegid byddai y naill yn dda oblegid yn unig iddo gael ei amgylchynu gan ddylanwadau daionus, a'r llall yn ddrwg oblegid yn unig iddo gael ei amgylchynu gan ddylanwadau drygionus. Ond y mae ymwybyddiaeth fewnol pob dyn yn gwrthdystio yn y modd mwyaf pendant yn erbyn hyn. Y mae yr euogrwydd a deimlwn wedi cyflawni gweithred ddrwg, a'r hyfrydwch a deimlwn wedi cyflawni gweithred dda, yn dweyd yn eglur mai ni ein hunain sydd yn gyfrifol am ein gweitnredoedd, ac fod ynom fwy o allu i lywodraethu amgylchiadau nag sydd gan amgylchiadau i'n llywodraethu ni. Os cyfiawn ydyrn, hyn sydd am ein bod yn caru uniondeb; ac os annuwiol ydym, hyn sydd am ein bod yn caru drygioni. Pell iawn ydym o wadu fod gan amgylchiadau eu dylanwad arnom. Mae pawb o honom yn gwybod trwy brofiad fod dylanwadau drwg yn gystal a dylanwadau da yn efíeithio arnom. Felìy y mae'n amlwg ddigon fod rhai sefyllfaoedd ag y mae yn anhawddach byw yn grefyddol ynddynt nag eraill. Ond y mae llawer yn gwneud gormod o'r fíaith yma. Mynant fod eu sefyllfa Chweì-sob, 1870. c