Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

\/' /' t/cnt Y DYSGEDYDD: gyda'r hwn y mae yä "annibynwr" wbdi ei uno. 23tttotngtituaetf). Y SAEPH: STORI Y TEMTIAD, " A'r sarph oedd gyfrwysach na holl fwystfilod y maes, y rhai a wnaethai yr Arglwydd Dduw; a hi a ddywedodd wrth y wraig, Ai diau ddywedyd o Dduw, Ni chewch chwi f wyta?" &c, Gen. iii. 1—5. " A gwelwyd rhyfeddod arall yn y nef; ac wele, ddraig goch fawr. A bwriwyd allan y ddraig fawr, yr hcn sarph, yr hon a elwir Diafol a Satan, yr hwn sydd yn twyllo yr holl fyd," Dat. xii. 3, 9. " Ac efe a ddaliodd y ddraig, yr hen sarph, yr hon yw Diafol a Satan," Dat. xx. 2. Y mae yn iawn i ni i olrhain pob ffaith mor bell ag y gallwn hyd eithaf ei natur a'i hanes, yn gystal a'i pherthynas â ffeithiau eraill. TJn o'r ffeithiau hynod y cyfarfyddwn â hwynt yn y Beibl yw temtiad Efa gan y sarph, yn nghyda throsedd ac anufudd-dod ein rhieni cyntaf, yn gystal a hanfodaeth ysbrydion aflan. Daw coffhad y sarph yn nechreu Gen. iii. ar ein traws yn ddisymwth iawn. Ymddengys fel pe na byddai ond rhan a gweddill o hanes neu dra- ddodiad ag oedd yn hŵy, anadnabyddus yn awr, ond adnabyddus mewn amserau o flaen Moses. Y mae yn dra thebygol ddarfod i'r sarph hon fod am oesau yn destun cyfeillach ac yn fater hanes a chân. Ffynai addoliad y sarph er yn foreu yn mhlith llawer o'r cenedloedd. Gwna Moses ei gymer- yd i fyny yn amser y temtiad. "Wrth ddywedyd, AW sarph oedd gyfrwysach, fyc, gallem feddwl ar yr olwg gyntaf mai dysgrifíad o un o briodoleddau y creadur a adwaenir yn gyffredin wrth yr enw hwn a roddai Moses yn ei hanes; a'r sarph, sef y rhywogaeth hon o greaduriaid, oedd gyjrwysach na holl, ŷc. Âc fel duU angenrheidiol o siarad, dysgwyliem iddo ddywedyd ar ol hyny, a sarph, neu un o'r seirph, a ddywedodd wrth y wraig, fyc. Ond nid hyny yw y dywed- iad, eithr y sarph ag a lefarodd wrth Efa oedd y sarph ag oedd gyfrwysach na holl fwystfilod y maes. Yna rhaid mai am ryw un sarph yr ysgrifenai, ac nid am rywogaeth neu fath neillduol o ymlusgiaid, sef y seirph, oni bydd i ni feddwl bod tyrfa o honynt yn cylchynu y wraig ieuanc hon, ac yn cyd- lefaru wrthi, yr hyn fyddai yn wrthun i'w dybied, a'r hyn, debygem ni, fuasai yn ddigon i'w dychrynu o'i phwyll. Meddylia rhai na bu yn weithredol y fath siarad rhwng y sarph ac Efa ag a goffeir yn y testun, na'r siarad chwaith a fu rhwng Duw ac Adda, Efa, a'r sarph ar ol hyn; ond mai rhyw feddyliau ag a godent yn nghalon Efa oedd y cyfan, ac i Moses ei roi mewn ysgrifen yn ffurf ymddyddan gweithredol. Ond y mae tyb o'r fath tuhwnt i bob coel rhesymol, ac yn Ionawb, 1870. A