Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: gyda'r hwn y mae "te annibynwb" wedi ei üno. îSgtografô'aetf). MR. THOMAS DAVIES, DOLGELLAU. Ganwyd ef Ebrill 15, 1777, a bu fabw yn Goephenaf, 1865, yn 88 mlwydd oed. Yr oedd y person yr ydym yn bresenol yn myned i ysgrifenu ychydig gof- iant iddo yn bur hysbys i'r Annibynwyr trwy Gymru y pump neu y deng mjynedd ar hugain olaf o'i oes, ac yn sir Feirionydd ddeng mlynedd yn gynt, trwy ei ymdrechion diflino i geisio diwygio y dull o ddwyn yn mlaen yr Ysgolion Sabbathol. O'r flwyddyn 1843 hyd 1850 teithiodd lawer trwy Gymru, gan bregethu a gwerthu ei lyfrau ar yr Ysgol Sul; ond yn benaf er ymweled â'r Ysgolion, a chynnal cyfarfodydd athrawon, i ddarllen rhan o'r ysgrythyr gyda hwy, a'u hegwyddori a'u harwain i mewn i'w gynllun ef o ddwyn yn mlaen yr Ysgol Sul. Yr ydym yn cofio yn dda y tro cyntaf y gwelsom ef: yr oedd hyny yn Blaenafon, ar nos Sadwrn, oddeutu y fiwyddyn 1844, yn ngafael â'r gwaith oedd fwyaf agos at ei galon. Dacw fo, yn hen wr, neu yn hytrach hen lanc, tàl, lluniaidd, 67 oed, a'i wallt yn wyn fel y llin, a chnwd mawr o hono ar ei ben, ac yn d'od i lawr yn dew dros ei dalcen hyd linell ei aeliau, a'r olwg arno yn lan a pharchus. Eistedda dan yr areithfa, a'r sêt fawr yn llawn o athrawon yr Ysgol a'u Beiblau yn eu dwylaw, ac y maent yn darilen yr 16eg bennod o'r Efengyl yn ol Ioan. Mae yr athrawon mwyaf galluog yno yn darllen yn gynnil ac ofnus, ac fel yn dysgwyl bob mynyd gael eu dal yn magl rhyw wall neu ddifíỳg; ac y mae yr hen lanc penwyn sydd yn y gadair yn llawn bywyd, yn agor ei lygaid, ac yn eu cau a'u gwasgu yn dỳn bob yn ail fynyd, a chyda llais siriol, a gwyneb hanner roguish yn d'od a'i "hym" a'i "eh" beirniadol ar ol pob cynaniad gwallus, neu bwyslais diffygiol, ac yn gwneud i'r nesaf fyned drosti, i weled a fedr ef ddyfod a darlleniad gwell. Yr ydym hefyd yn cofio un enghraifft o'i feirniadaeth ar y pwysleisio. Darllenodd un o'r athrawon yr ymadrodd, " Gwirionedd yr wyf fi yn ei ddywedyd i chwi," gan osod pwyslais neillduol ar y rhagenw chwì. "O, fel yna, ai êì Gwirionedd i chwi, a chelwydd wrth eraill? Nid felly yr oedd Orist yn golygu, tybed." Yna dangosai y dylid rhoi y pwyslais ar y gair gwirionedd, ac nid ar y gair chwi, yn yr ymadrodd. "Wedi hyn, cawsom lawer cyfleusdra i ymgydnaoyddu âg ef, ac y mae genym Htdeef, 1869. t