Skip to main content

Y DYSGEDYDD: gyda'r hwn y mae "yr annibynwr" wbdi bi uno. AT DY SAFN A'E UDGOM. I BWY YE YMDDIRIEDIR ADDYSG Y BOBL? Nl raicf i'r darllenydd fod yn hen i gofio agwedd ar ein gwlad tra gwahanol i'r hyn ydyw yn awr. Ychydig o adolygiad a'n caria yn ol at gyfnod pan oedd darllenyddion yn brin, ac ysgrifenyddion yn brinach. Nid oedd y tirfeddiannwyr wedi cael eu bendithio â llawer o ddysg, a gorweddai y werin yn gwbl anllythyrenog. Yr oedd y dosbarth uchaf o gymdeithas yn wrthwynebus i'r bobl gyífredin gael dysg. Bu yr Ysgol Sabbathol yn foddion i ddwyn mwyafrif mawr o'r genedl yn alluog i ddarllen yn yr iaith Gymraeg, ac i gyrhaedd gwybodaeth ysgrythyrol yn fwy cyffredinol yn mysg ein cenedl nag a geir yn mysg cenedloedd cymydogaethol. Codwyd addoldai yn mhob parth o'r Dywysogaeth, a chasglwyd miloedd lawer o'r trigolion i ẁneud proffes gyhoeddus o grefydd. Cyfrifai Ymneillduwyr Cymru mai eu gorchwyl nesaf a fyddai darparu moddion addysg fydol i'w plant. Ond pan oeddynt yn dechreu trefnu eu cynlluniau, daeth cynllun newydd y llywodraeth i gefhogi addysg o drysorfa y wlad i weithrediad. Cymerodd yr Eglwyswyr fantais ar y trefniant hwnw i sefydlu Ysgolion Gwladwriaethol mewn cysylltiad â'r Eglwys, a throes y dosbarth a arferent gondemnio addysg y werin, yn bleidwyr egnîol i'r ysgolion hyny. Teimlent, îe, addefent, nad oedd gobaith adennill y rhieni yn ol i gorlan yr Eglwys, ac nad oedd dìm i'w wneud ond cael y plant dan ddylanwad addysg yr Eglwys. Cawsant lawer mwy.o arian (mwy a ddylasent gael) gan y Uyw- odraeth i blanu ysgolion i broselytio y genedl yn nghanol gwlad nad oedd nemawr Eglwyswr o'i mewn! Teimlai Ymneillduwyr nad oeddynt yn cael cyfiawnder ar law y llywodraeth. Y mae enghreifitiau cywilyddus i'w cael o'r camgymhwysiad a wnaed o arian y trethoedd a godid oddiar bawb yn ddiwahaniaeth, i'n beichio âg ail sefydliad ar ol i'r cyntaf droi allan yn fethiant. Y mae yr addysg a gyfrenir yn yr Ysgolion Gwladwriaethol yn hollol anghymhwys i Gymru Ymneillduol. Y mae dysgu y Gatechism Eglwysig i blant Ymneillduwyr yn wrthun, a'u gorfodi i ymddangos yn yr Eglwys ar y Sabbath yn annyoddefol. Nid ydym heb wybod eu bod mewn rhai Baanau yn goddef i rai o'u neillduolion gael gorwedd fel llythyren farw, a hyny yn groes i reolau gosodedig; ond os ennillant ddylanwad ar y plant, ac os cânt lonydd i aros yn unig ysgol mewn ardal, y mae y troed ftbrchog yn acr o ddyfod i'r golwg. Yn y diofalwch ymddangosiadol am Eglwys- GoaPHBNAF, 1869. N