Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: gyda'b, hwn y mae. "yr annibynwr" wedi bi uno. ¥r &cîjos. CYFARFODYDD EGLWYSIG, A'R MODD GOEEU I'W CYNNAL.* Nid oes gorchymyn ysgrythyrol i gynnal cyfarfódydd eglwysig. Ond meddwn luaws o awgrymiadau a hyflorddiadau yn eu cylch, a chawn enghreifftiau o honynt yn yr Hen Destament a'r Newydd. Er nad oes ffurf gorchymyn ar yr un o'r ymadroddion ysgrythyrol mewn perthynas iddynt, etto ymddengys fod y dull y cyfeirir atynt yn dangos cymaint o angenrheidrwydd ar iddynt gaèl eu cynnal a phe gorehymynasid hyny yn benodol. Mae yr ysgrifeniadau santaidd wedi eu bwriadu i ni, ac er ein haddysg: "Canys pa bethau bynag a ysgrifenwyd o'r blaen, er addysg i ni yr ysgrifenwyd hwynt; fel trwy amynedd a dyddanwch yr ysgrythyrau, y gallem gael gobaith," Rhuf. xv. 4. 0 ganlyniad, os ydyw yr Ysbryd Glan wedi trosglwyddo i ni hanes cyfarfodydd neilHuol yn gysylltiedig â hanes y duwiolion, rhaid mai er addysg ac esiampl i ni yr ysgrifenwyd hwynt. Cawn yn awr nodi rhai rhesymau dros gynnal "eyfarfòdydd eglwysig;" ac yna ceisiwn roddi rhai awgrymiadau am "y modd goreu i'w cynnaL" Paham y cynnelir y cyfarfodydd a alwn yn gyfeillàchau creíyddol? A ydyw y cyfarfódydd hyn o ordeiniad dwyfol, ai nad ydynt? Os ydynt, pa le y mae'r seiliau ysgrythyrol? Os nad ydynt, paham y cynnelir hwyntî Yr ydym yn ateb eu bod yn cael eu cynnal mewn cysondeb trwyadl â'r ysgrythyrau. Mae yr ymadroddion "cymdeithas y saint," "cynnulleidfa y saint," "cymanfa 'y rhai perffaith," a'u cyffelyb yn y Salmau, yn eglur ddangos y byddai y duwiolion yn yr adegau hyny yn cynnal eu cyfarfodydd. neillduol. Yr oedd "cynnulleidfa y saint," a "chymanfa y rhai uniawn," gan y Salmydd yn wahanol i'r "gynnulleidfa" a nodir mor fynych ganddo. Yr ydym yn casglu hyn o herwydd fod y ddau yn cael eu nodi yn wahanol I ganddo. Dywed—" Clodforaf yr Arglwydd ârm holl galon yn nghymanfa \ y rhai uniawn, ac yn y gynnulleidfa," Salm cxi. 1. Nis gelUr rhoddi. strheswm digonol dros y dosraniad hwn heb gi-edu fod y "rhai uniawn" yn jymgynnull yn "gymanfa" neillduolj a'r "gynnulleidfa" yn gyfarfyddiad o igymeriadau cymysgedig. Diau mai yr un oedd "y rhai uniawn" a'r rhai y *Darllenwyd y papyr hwn yn Nghyfarfod Cbwarterol Tabor, Mawrth 92, gan y ?arch. W. Nicholson, ac yr ydym yn gwahodd sylw ein darllenwyr ato. Bydd yn dda ;enym os gwelrhai o'n gohebwyr yn dda wneud sylwadau pellach ar y pwpc pwysig ; gynnwysa yr ysgrif hon. ^MiíHiaraN, 1869. h