Skip to main content

Y DYSGEDYDD: gyda'r hwn y mae "yr annibynwr" wedi ei itno. 13gto3raföaetf). Y DIWEDDAR BARCHEDIG HENRY REES. " Y ffynnidwydd, udwch, canys cwympodd ycedrwydd! difwynwyd y rhai ardderchog!" "Canys wele yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd, a dỳn ymaith o Jerusalem ac o Judah * * * y cadarn, * * y brawdwr, a'r prophwyd, y synwyrol, a'r henwr, y tywysog deg » deugain, a'r anrhydeddus, a'r cýnghorwr, a'r crefftwr celfydd, a'r areithiwr hyawdl." Mae y wlad oll mewn galar. Dichon na bu hiraeth mwy cyffredinol ar ol yr un dyn a fu farw yn Nghymru yn yr oes hon. Cafodd fyw i oedran teg, a mwynhau iechyd da; a gallesid, o ran pob ymddangosiad, bythefnos cyn ei farw, ddysgwyl iddo fyw yn gryf, o leiaf, am ddeng mlynedd yn ychwaneg. Ond disgynodd i'r bedd yn annysgwyliadwy—yn nghanol ei barch a'i bobl- ogrwydd—yn anwyl yn serch ei holl frodyr, ac yn eglwysi y cyfundeb cỳfrifol i ba un y perthynai—ac yn cael ei garu gan ei holl genedl. Deugain mlynedd i eleni y clywsom ef gyntaf erioed; ac er nad oeddym y pryd hwnw ond ieuanc iawn, gadawodd argraff ar ein meddwl sydd wedi aros byth. Yr oedd y pryd hwnw yn mlodau ei ddyddiau, yn ymagor fel rhosyn; a mawr y cyrchu fyddai ar ei ol: prin yr oedd un capel yn y wlad a gynnwysai y torfeydd a ddeuai i'w wrando; ac yn anamyneddgar iawn y gwrandewid ar "ei gyfaill," yr hen Richard Mumford (os ydym yn cofio yn iawn) gan gymaint oedd awydd pawb am glywed Henry Rees. Mae ei ymddangosiad ym y pulpud y mynyd yma o flaen ein llygaid. Dyn ieuanc main, tàl, teneu, ond hardd iawn yr olwg arno—gwallt teneu melynwawr— edrycha yn ddifriMl iawn, braidd yn bruddaidd; ond y mae yna wên yn achlysurol sydd yn rhoddi rhyw ddysgleirdeb ar ei wynebpryd. Yr ydym yn cofio yn dda mai y siarad wrth fyned o'r oedfa oedd, ei fod yn edrych fel angel; ac yr oeddym ninnau wedi derbyn argraff felly i'n meddwl. PJygai yn ei wàr, ac estynai ei wddf yn mlaen wrth ddechreu pregethu; ac yr oedd ganddo dôn hirllaes, gwynfanus, wríh siarad; ac yr oedd hòno, fel y gwres- ogai, yn dyner ac effeithiol dros ben. Nid ydym yn cofio y testun, na dim o'r bregeth; ond yr ydym yn cofio yn dda iddo son yn rhywle am Old Ädam'* Itm, ac yr oedd yn ddigon naturiol i air felly dynu sylw bachgenyn Jryth oed. Buom lawer gwaith ar ol hyny yn ceisio dyfalu yn mha gysyllt- iad y dygodd yr ymadrodd i mewn; ond ychydig ddyddiau yn ol, cawsom gyfle i ofyn i gyfaill i ni, ae edmygwr mawr i Mr. Rees, yr hwn y gwyddem oedd yn yr oedfa, ac yn hýn o oedran na ni. Ymddengys mai testun Mr. Bees y tro hwnw oedd, "Gan edrych yn ddyfal nabo neb yn pallu oddiwrth ras Duw.w Darluniai drefh iacbawdwriaetìb. wedi tarddu o ras; acyn rhywle Ebäh,!,, 1869. o