Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: gtda'r hwn y mae "yr annibynwr" wbdi ei uno. ^utoingTẃiaetlj. Y DDAU ORCHFYGWR. " Yr hwn sydd yn gorchfygu, rhoddaf iddo ef eistedd gyda mi ar fy ngorseddfainc, tnegyi y gorchfygais innau, ac yr eisteddais gyda'm Tad ar ei orseddfainc ef."—Dat. iii. 21. Mae gan bob eglwys i Dduw ei gwaitb. Ni bu cyfnod erioed yn ei hanes yn segur. Gofalodd Duw am dòri digon o waith iddi yn mhob oes o'r byd. Braint ac anrhydedd pob aelod yn bersonol ydyw cael gweithio yn eglwys Dduw, Dyma y man gogoneddusaf a fedd Duw ar y ddaear. Yma y mae gwaith rhad ras yn cael ei ddwyn yn mlaen yn nghalonau pechaduriaid. Gweithdy Duw ar y ddaear ydyw ei eglwys; ac os ydym ninnau wedi ein dwyn iddi mewn gwirionedd, yr ydym wedi ein dwyn i'r lle goreu sydd gan y nefoedd yn y byd. Yr eglwys sydd yn gweithio fiyddlonaf dros Dduw a'i ogoniant, ydyw yr un sydd yn cael mwyaf' o gysur a nerth yn wastad. Ychydig iawn ô gysur mae yr eglwys sydd wedi myned i gysgu yn ei gael iddi ei hun, heb son am fod yn gysur i eraill. Mae pob eglwys sydd wedi myned i gysgu gyda gwaith Duw, yn colli holl fwyniant crefyfld bur, ac yn gosod ei hun yn agored i bob gelyn i dd'od i mewn. Ond am yr eglwys hòno sydd a bywy|j. o'i mewn, y mae yn cadw ei hunan mewn sefyllfa ddiogel a dedwydd^ Gweithgarwch yr eglwys ydyw ei nerth a'i gogoniant. Mae pob eglwys, sydd yn gweithio yn cael Uawer iawn o gysur iddi ei hun, ac y mae yn ei wasgaru ar eraill. Eglw^rs ddiwaith, ydyw y peth gwaelaf o ddim. Mae yu debyg iawn i hen goeden wedi crino—fiynnon wedi myned yn hesp, a chorff wedi collr ei fywyd. Yn y cyflwr yma, mae'r eglwys yn colli ei gogoniant a'i phrydferth- wch moesol. Gallwn feddwl mai eglwys fel hyn oedd un y Laodiceaid, yr ysigrifenir yma ati. Gallai fod ganddi feddwl mawr o honi ei hun—yn meddwl fod ganddi ddigon o bob peth a'i diogelai ac a'i gwnai yn ddedwydd byfchj ond erbyn ei chwilio yn ofalus, nid oedd ganddi ddim. Dywedir ei bòdyn druan, yn resynol, yn dlawd, yn ddall, ac-yn noeth. Eglwys oedd hon aeth i gyflwr tru(mus iawn trẁy ei difaterwch a'i chlauarineb. Ond wédi'r cwbl a ddywedir am yr eglwys hon, yr oedd yno râi ynddi oedd mewn ymdrech o blaíd lesu. Mae yma addewid yn cael ei rhoddi i'r cyfryw—" Yr hwn sydd yn gorchfygu, rhoddaf iddo ef eistedd gyda mi ar fy * ngorseddfainc, megys y gorchfygais innau, ac yr eisteddais gyda'm Tad ar ei Ionawh, 1869. A