Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: GTDa'r HWN V MAE " TR ANNIBTNWR" WEDI EI UNO. YR OCHR DYWYLL. PHIL. II. 12, 13. Y mae llawer o lanerchau hyfryd yn y byd ag y mae eu henwau yn ddy- chryn oblegid y brwydrau gwaedlyd a gymerasant le ynddynt. Dichon fod prydferthwch naturiol y fro yn ddigymhar. Y mae natur megys ar ei goreu yn ei gwisgo â harddwch; a phan y byddo gwyrddlesni y gwanwyn yn gorchuddio y ddaear, a blodau fyrdd yn gwenu dan belydrau yr haul, a chathlau yr adar yn ymgyraysgu â miwsig yr awelon yn nghangau y coed, mae yr olwg arni yn peri i ddyn feddwl am ogoniant paradwys gynt yn nyddiau diniweidrwydd dyn; ond ryw ddiwrnod dacw fyddinoedd gwrth- wynebus yn cyfarfod arni i ymladd brwydr. Mae rhuad y magnelau fel swn taranau lawer, y mwg yn esgyn yn golofnau dudew tua'r nen, afonydd o waed yn fírydio ar y mae^s, miloedd o ddynion yn gelaneddau meirwon ar draws eu gilydd, a gruddfanau y clwyfedigion yn rhwygo yr awyr. Mae ediych ar yr olygfa yna yn peri i'r dewraf ei galon lesmeirio, ac y mae dar- Uen yr hanes yn llanw y meddwl âg arswyd. Pwy a all ymweled â maes Watêrloo heb feddwl am y dydd bythgofus pan yr oedd y lluoedd arfog dan arweiniad Bonaparte a Wellington yn ymryson dinystrio eu gilydd î Pwy all dreraio ar Ddyffryn Marathon ac anghofio y frwydr ofnadwy rhwng y Groegiaid a'r Persiaid, pan y gwnaeth y blaenaf i waed yr olaf gymysgu â thònau y môr a olchent y làn ? a phwy a all fyfyrio ar y dygwyddiadau hyn heb fod rhyw gymaint o fraw yn llanw ei enaid ? Gallai fod y byd wedi ennül rhyw bethau trwy y rhyfeloedd gwaedlyd hyn, ond diau iddo golli Uawer hefyd. Yn awr y mae yr un peth i'w ddywedyd am lawer o feusydd prydferthaf a mwyaf toreithiog duwinyddiaeth. Y mae yn hoff gan y Cristion rodio ynddynt ambell waith, oblegid cenfydd ynddynt ogoniant ei Brynwr yn ym- ddysgleirio ar bob llaw. Ond etto y mae meddẃl am y brwydrau ffyrnig a ymladdwyd ynddynt mewn gwahanol oesau yn peri iddo gerdded yn araf, ac yn ei feddiannu â thipyn o arswyd; oblegid beth yw dadleuon crefyddol ond brwydrau, a brwydrau sydd wedi achosi cryn lawer o ddinystr. Dichon fod peth lles wedi ei wneud rai prydiau drwy y dadleuon hyn. Buont yn fodd- ion i symud ymaith lawer o dywyllwch oddiar wahanol bynciau; a diau iddynt feithrin ysbryd chwilio am y gwirionedd. Ond y mae yn fí'aith an- wadadwy iddynt achosi Uawer iawn o ddrwg. Creasant deimladau digofus rhwng gwahanol bleidiau ; buont yn angeu i gariad brawdol mewn lluaws o amgylchiadau; oblegid y drwg mawr mewn dadleuon yw hyn—er fod pob plaid yn proffesu chwilio am y gwirionedd a'i amddiffyn, etto mewn gwirion- edd y pwnc mawr gan y naill blaid fel y llall ydyw ennill y fuddugoliaeth. Aed y gwirionedd lle yr elo, y mae pawb am gario y dydd—y mae ganddynji JÌHAGFTR, 1868. 2 L