Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: «yoa'r hwn y mae "yr annibynwr" wedí ei uno. ARWYDDION HAF. •Edrychwch ar y ffigysbren, a'r holl brenau; pan ddeiliont hwy weithian, chwì a welwch ac a wyddoch o honoch eich hun, fod yr haf yn agos." Pethaü naturîol ac adnabyddus i bawb o'i wrandawyr a ddefnyddiai Iesu Grist i egluro y materion y traethai arnynt yn ei weinidogaeth. Lili y maes, y winwydden, y fiigysbren, yr hedyn mwstard, hau yr had, medi y cnwd, y surdoes yn y blawd, arwyddion dyfodiad yr haf, a'r cyffelyb, oedd- ynt y pethau a ddefnyddiai efe i ddwyn pethau mawrion crefydd at feddyliau y tyrfaoedd. Annogai ei ddysgyblion a phawb i sylwi yn fanwl ar "arwydd- ion yr amserau," ac i ymbarotoi ar gyfer y dyfodol, yn ol awgrymiadau yr arwyddion a ganfyddent. Y mae ein byd ni yn llawn o arwyddion o'r peth- au a gymerant le yn y dyfodol. Nid y w y gwanwyn, yr haf, y eynhauaf, na'r gauaf, yn dyfod arnom heb anfon o'u blaen arwyddion o'u dyfodiad. Y raae gan nychdod, henaint, a marwolaeth eu harwyddion, yn dyfod i fynegu eu bod gerllaw. Felly hefyd y mae gan amgylchiadau pwysig yn Rhaglun- iaeth Duw, ei lywodraeth foesol, a gweinyddiad trefn iachawdwriaeth yn y feyd, eu harwyddion yn eu rhagflaenu. Ni ddaeth y diluw, dinystr Sodom, y waredigaeth o'r Aifft, dinystr Jerusalem gan y Caldeaid, y dychweliad o'r caethiwed, na dinystr J erusalem gan y Rhufeiniaid, heb arwyddion eu bod yn nesâu. Gellir dywedyd yr un peth am enedigaeth Crist, dechreuad ei weinidogaeth, ei farwolaeth, a llwyddiant yr efengyl yn nyddiau yr apostol- ion. Yr oedd arwyddion lawer yn rhagflaenu cyfodiad y dyn pechod, a Uygriad Cristionogaeth yn y cynnar a'r canol oesoedd. Cyn y Diwygiad Protestanaidd yr oedd ysbryd anturiaethus wedi cymeryd meddiant o amryw genedloedd, dysgeidiaeth yn adfywio, yr argraffwasg a gwneuthur papyr wedi ©u dyfeisio, a iluaws o bethau yn awgrymu fod ysgydwad effeithiol gerUaw, a dyddiau eaethiwed eglwys Dduw yn tynu tua'r terfyn; a chyn hir dacw Luther a Melanethon, a lluoedd o'u cyffelyb, ar y maes, a gwersyll Pabydd- iaeth yn crynu drwyddo ger eu bronau. Päii elom ninnau, yn y dyddiau hyn, i fyfyrio ar y byd o ran ei sefyllfa, yn ẁladyddol a moesol, y mae o flaen ein llygaid arwyddion eglur yn awgrymu beth a fydd yn y dyfodol, a bod dyddiau gwell nag a welwyd ettò gerllaw, a haf y ddaear a'i thrigolion yn agosâu. Gallem nodi y pethau can- lynol 'fú rhai sicr o gymeryd lle, yn y dyfodol, yn ol yr arwyddion o honynt sydd yn ymddanjgos yn y tymmor presenol. X Mae arwyddion yn y dyddiau hyn fod y byd yn dynesu at gyfnod, pan y bydd rhyddid a hawliau naturiol dynion yn cael eu parohu, eu gwcŷth- faTWîgi, a'u hamddiffyn^ yn gyfíredinol. Mae dyddiau felly yn cael eu. Miw, 1868. 2 *