Skip to main content

Y DYSGEDYDD: «YDAE HWN T MAE " TR ANNIBTNWR WEDI EI ÜNO. Y PATRIARCH 0 DDOLGELLAU. "Ni frysia yr hwn a gredo." Nid yn unig gellir cymhwyso cyfieithiad y Deg a Thrìugain—"Nì. chywilyddia yr hwn a gredo"—o eiriau Esaiah xxviii. 16, at y patriarch o Ddolgellau; ond hefyd mae y cyfieithiad awdurdodedig Cymreig, " Ni frysia," neu ni wylltia, "yr hwn a gredo," yn dra chymhwysiadol idda " Ni frysiai " ac ni wylltíai yn wyneb graddoldeb llwyddiant ei weinidog- aeth. Dechreuodd ei weinidogaeth a pharhaodd i gyflawni ei dyledswyddau am flynyddau gyda gradd, o anfantais i'r olwg ddynol. Ymddengys fod ei ragflaenydd, Mr. Pugh o'r Biithdir, yn bregetliwr hynod o fywiog, tanllỳd, a llwyddiannus; a'i fod wedi ei ddefnyddio yn offeryn gan yr Arglwydd i eangu teríýnau ei deyrnas, i raddau anghyffredin, yn y gymydogaeth, yn ystod yr yspaid byr o saith mlynedd o'i fywyd gweinidogaethol. Yr oedd yn ofynol i'w olynydd feddiannu cryn wroldeb Cristionogol, pwyll, a ffydd gref yn ýr efengyl, i ddechreu llafurio dan y fath amgylchiadau. Fodd bynag, ymgy- merodd Cadwalader Jones â'r cyfrifoldeb; ac er mai araf oedd ei lwyddiant, etto, yr oedd yn sicr: am hyny, "Nifrysiai" beth bynag fyddaiy rhwystrau a'r digalondid a'i cyfarfyddai. Nid oedd ^jna " brysio," yn flin ganddo ei einioes, ac yndeisyfu caelmarw, fel EUas, yn wyneb aflwyddiant ymddangos- iadol ei weinidogaeth. Yr oedd gwir gi-efydd yn fwy blodeuOg yn amsèr Elias nag y tybiai efe, trwy ei barnu wrth yr olwg; canys ýr oedd yno saith mil dan ei dylanwad, heblaw y prophwydi. Yr oeddynt yn gwreiddio yn ddwfn, os nad oeddynt yn tyfu yn uchel i'r amlwg. Nid ydym i farnu cynnydd a llwyddiant crefydd, bob amser, wrth yr hyn a welir ac a glywir. Mae yr un mor hanfodol i'r had wreiddio yn y ddaear ag ydyw iddo dyfu i'r awyr—rhagflaenir yr olaf gan y blaenaf. Felly gyda chrefydd. TrWy anystyriaeth o hyn, mae y gweiniaid eu ffydd yn yr eglwysi^ os na chlyW- ant gynhwrf, ac os na welant arwyddion a rhyfeddodau, yn " brysio," yn gwylltio, yn colli hunanfeddiant, ac yn dywedyd, " Mae'r achos yn myn'd i kwr." Ond, "Ni frysia yr hwn a gredo" yn " ngodidawgrwydd y gallu sydd o Dduw." Yn y " gallu " hwn yr ymddiriedai Mr. Jones am lwydd- iant ar ei weinidogaeth, ac ni chafodd ei siomi. Ac os oedd yno rai yn yr eglwyd a arferent, yn fynych, yn ei glyw briodoli eu dychweliad i Mr. Fugh, gan adgoffa yr hwyüau a'r blas a gawsent dan weinidogaeth ei ragflaenydd, a chwyno am na fuasai etto yr un modd, ni ddarfu iddo " frysio," llwfrhau, a rhoddi i fyny yr ysbryd, fel Ambrose Mostyn, yr hwn a aeth yn isel «i feddwl ac yn glaf ei gorff, wrth glywed y fcobl mewn cyfarfod parotoad yn Mehefin, 1868. Q