Skip to main content

Y DYSGEDYDD: oyda'r hwn y mae "tr annibynwr" wedi EI UNO. ANÉRCHIAD I FYFYRWYR ATHROFA Y BALA, A draddodwyd Mawrth 25ain, 1868. GAN Y PARCH. WILLIAM EDẄARDS, ABERDAR. Frodtr,—îsTi bum erioed yn feistr am wneuthür ymddiheurad, pe aingen, myfi a'i gwnaetliwn y tro hwn, Dichon mai o'r braidd y dylaswn gydymífurfio â chais y Pwyllgor, drwy addaw eich anerch, gan fod yma amryẃ frodyr a thadau a'i gwnaethai yn llawer mwy galluog na mi; er mai o'r braidd -ÿ caniatâf fod yma neb yn fwy o gyfaill myfyrwyr, ac, hyd y gellais, wedi bod felly bob amser mewn gair a gweithred. . Modd bynag, yr wyf yn ddigon hen, ac weithian wedi cael peth profìad; mor bell a hyny, dichon y gellwch roddi rhyw gymaint o bwys ar y pethau ý galẅaf eich sylw atynt. Frodyr, yn ddigon hen a ddywedais'? Mor gyflym y mae ein hamser yn myned heibio 1 Nid yw ond megys doe genyf feddwl er pan oeddwn yn croesi Mignanì; o Ffestiniog i Lanuwchllyn, i gychwyn fy addysg o dan ofal hybarch sylfaenydd yr athrofa hon—y diweddar a'r anfarwol Michael Jones; ac etto, mae yn agos i ddeuddeg ar hugain o flwyddi meithion wedi myned dros fy mhen er y pryd hwnw. Nid oedd yr athrofa y pryd hwnw ond bechan a dinod, er i rai.cewri gael eu magu ynddi cyn hyny. Ac yn wir, myfì fy hun yn unig oedd y goreu a'r gwaelaf o'r alwmni pregethwrol ar y pryd; a rheswm da dros hyny, gan nad oedd un pregethwr i'w gael ynddi ond fy hunan. Yr oedd yno dri o hogiau digon direidus, y rhai ar ol hyny a ddaethant yn weinidogion enwog, sef y Parchn. Ellis Thomas Davies, Abergele; Joseph Morris, gynt o Narberth, yn awr o Bryste; a'r olaf, os nad y penaf, Michael Jones, athraw parchus yr athrofa hon. Ond erbyn heddyw, wele yn yr athrofa ddäu athraw, a'r ddau wedi eu magu ynddi hi ei hun, a 22 o fyfyrwyr; ac wele finnau, er nad o herwýdd y ddoethineb sydd ynof yn fwy na neb byw, yn meddu yr anrhýdedd o anerch y nryfyrwyr. Fel hyn y mae dull y byd yn myned heibio. Ac yn wir, yr ydym ni yn byw mewn amser rhyfedd yn oes y byd—amser o gydymdrech rhwng y peth- au a fu, y sydd, ac a ddaw ar ol hyn; amser pan y mae dyn, drwy y cyfan, yn prysuro i'w saíie wreiddiol o fod yn arglwydd y greadigaeth, pryd y bydd pob peth wedi eu darostwng dan ei draed ef. Mae rhyw gyflFroad uwch- ddynol bron wedi ei roddi i'w feddwl a'i ysbryd. Mae dyn yn dyfod yn fwy o ddyn bron bob dydd. Nid oes dim yn sefyll o'i flaen ef. Mae o yn chwalu ac yn chwilio, yn cyfodi i fyny ac yn taflu i lawr, wrth ei ewyllys bob peth bron a ddaw i'w ffordd. Mae*i allu ar y byd er da ac er.drwg yn aruthrol. Wrth byny y maé o bwys annhraethol gwylied ar ei symudiadau, a rhoddi cyfeiriad priodol i'w feddwl. Gwaith mawr gweinidogaeth yr! Mai, 1868. n