Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: OTDA'r HWU T MAE "TR ANNIBTNWR" WEDI EI UNO. Y PATMARCH 0 DDOLGELLAU. "Ni frysia yr hwn a gredo." *. Llefarwyd y geiriau, " Ni frysia yr hwn a gredo," gan y prophwyd Esaiah, (xxviii. 16,) yn yr olwg ar ddiogelwch a thawelwch y credadyn, nen yr eglwys, yn nghanol terfysgoedd a chwyldroadau y byd. Rhagfynegid i'r genedl ddyfodiad y Caldeaid, ac y byddent yn ei chymeryd yn gaeth i Babilon, os na wnelai edifkrh.au, diwygio, a dychwelyd at yr Arglwydd. Ond fel na ddigalonid y bobl dduwiol yn eu mysg, awgrymir na wnelai dinystrio Jerusalem a'r deml, effeithio dim.ar fodolaeth yr eglwys neu y credadyn. Canys " dywed yr Arglwydd Dduw, Wele fi yn sylfaenu maen yn Seion, maen profedig, conglfaen gwerthfawr, sylfaen safadwy; ni frysia yr hwn a gredo." Mae'r ffugr yn rhagdybied tŷ yn agored i'r gwlaw ddisgyn, y gwyntoedd chwythu, a'r llifeiriant i ruthro arno; a bod y preswylydd, sydd yn ofni nad yw y sylfaen jn safadwy, yn brysio, gwylltio, ac yn gadael ei dŷ, i geisio safle ddiogelach; tra "ni frysia yr hwn a gredo" yn nghadernid a sefjdlogrwydd sylfaen ei breswylfod, yn nghanol yr ystorm. Tebyg i'r blaenaf y teimla yr anghredadyn yn nghanol blinderau a thrallodion y bywyd hwn, ac ystormydd angeu a'r farn a fydd; eithr fel yr olaf, "ni frysia" y credadyn, beth bynag fydd y tywydd a'i cyferfydd. Rhoddir gwahanol gyfieithiadau o'r ymadrodd gwreiddiol am "ni frysia yr hwn a gredo." Mae y Deg a Thriugain yn ei gyfieithu, " Ni chywilyddia yr hwn a gredo." " Ni frysia yr hwn a gredo," yw y cyfieithiad awdurdod- edig Cymraeg; pan mae eraill yn cyfìeithu y geiriau, " Nid ofna yr hwn a gredo." Bwriadwn ddefnyddio y gwahanol ystyron hyn^o'r ymadrodd fel yn gymhwysiadol i'r diweddar batriarch o Ddolgellau, a-r yr achlysur o'i ymadawiad â'r fuchedd hon; canys mae amryw o jSônoch yn dysgwyl am gyfeiriad cyhoeddua ato, ac mae'n weddus i ni wneua hyîry ar lawer o ystyr- iaethau. Yn ystod y cyfnod rhwng marwolaeth yr hybarch Jenkin Lewis, yn 1805, ac urddiad y Parch. Mr. Roberts (wedi nyny o Ddinbych) yma yn y flwyddyn 1810, arferai Mr. Jones, pan yn wr ieuanc newydd ddechreu pregethu yn Llanuwchllyn, ddyfod i Lanfyllin yn fynych i gynnorthwyo yr Eglwys Anni- bynol. Os da yr ydym yn cofio, dywedodd wrthym, ei fod yn pregethu yn fisol yma am rai blynyddau. Efe hefyd ydoedd y diweddaf a wrthwyneb- v?yd yn gyhoeddus gan erlidwyr crefydd yn y gymydogaeth hon, a fua^iâ yn Pendref, Aufonir Ebrill, 1868. k