Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: öyba'ä hwn r MAE "tr annibynwr" wedi ei üno. CRISTION-BETH YDYWÎ "A bod galw y dysgyblion yn Grìstionogion yn gyntaf yn Antiochia," Act. xi. 26. Dyma li'aith hanesyddol bwysig yn cael ei gosod allan mewn ychydig eiriau, ond er hyny yn ddigon llawn ac yn ddigon eglur. Pe buasai dyn o hono ei hun, heb arweiniad ysbrydoledig, yn cofnodi y fíàith, tra thebyg y buasaiyn ysgrifenu llinell arol llinell, ol a blaen, digon i lenwi tudalenau lawer, Y mae bod yn gryno ac yn gynnwysfawr yn un o brif hynodion yr ysgrythyr lan. Y mae Cristionogaeth yn anneìu at fywyd holl grefyddau y byd. Ni fỳn ymgymmodi â chrefyddau eraiIL Y mae hi yn grefydd fyd-garol, ac yn amcanu at gymeryd meddiant o'r byd. Yr oedd crefyddau erailì yn ym- foddloni byw o fewn cylch penodol—crefyddau lleol oeddynt—ni pherthynai iddynt ysbryd cenadol. Ond mynai Cristionogaeth wynebu ar fyd cyfan, ac ni chymerai ei chyfyngu o fewn un wlad nac o fewn un genedl. Yr oedd crefyddau eraill yn foddlon i ystwytho, i blygu i farn y byd, ac i ymgymeryd â'r tybiau oedd fwyaf ífynadwy ar y pryd. Ond yr oedd Cristionogaeth yn anhyblyg—ni chymerai ei hystwytho gan ddim, ac ni fynai ymgymysgu â diin o syniadau cnawdol y byd. Pe buasai ychydig yn fwy ystwyth, diangasai rhag llawer o dywydd garw. Ei hanhyblygrwydd oedd un o brif achosion gelyniaeth y byd tuag ati, ac a dynodd gynddaredd ei erledigaethau. Ki fynai gydfyw â chrefyddau eraill, ond mynai eu llwyr ddilëu, Y mae diafol yn fynych, wrth geisio saethu at y nôd, yn saethu drosto— delir y cyfrwys yn ei gyfrwysdra. Yn y bennod a nodir uchod, ceir ei fod yn cyffroi cynddaredd ei offerynau, ac yn peri erledigaeth ffyrnig ar y dya- gyblion. Tybiai ond iddo allu ymlid y Cristionogion ar wasgar, y diflanai eu crefydd allan o'r byd; ond camgymerodd yn ddirfawr—bu gwasgariad y dysgyblion yn daeniad i Gristionogaeth. Yn mhlith manau eraili, pregeth- tyyd y gair yn Antioch, dinas wycb, a phoblog: credodd llawer yr ymadrodd am y groes; a'r canlyniad o hyny fu i eglwys luosog gael ei ffurfio. Fel hyn y ffurfid, ac fel hyn y ffurfir, egiwysi apostolaidd, 'Ni arosid hyd öes i awdurdodau gwladol gymeryd y mater mewn llaw, ac arosod ffurf o Grristionogaeth yn sefydledig o fewn cylch eu ilywodraethau. Gweithredid, lid yn unig heb gefnogaeth yr awdurdod gwladoi, ond er gwaethaf ei lid a'i greulonedd. Dyma'r modd i ffurfio eglwysi efcto. Doder Beibi yn llaw dyn o synwyr cyffredin, heb i'w feddwl erioed gael ei ysgogi gan. ragfarn o blaid öac yn erbyn unrhyẃ gyfundraeth, a ydyw jn dcüchonadwy y casgla efe oddiwrth gynnwysiad y Beibl yn unig fod rhaid cael y Uywydd gwladol ya * W yr eglwys—fod rhaid cael deddfau gwladol yn furiau amddiffynol iddi—* Mawrtii 1868. o