Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: «tda'b hwn t mae "tr annibtnwr" wedi ei uno. EHAGHANFODIAD CRIST, Nid yw y gair rhaghanfodiad yn ysgrythyrol,'ond y mae yn enw ar athraw- iaeth a ddysgir yn eglur iawn yn yr ysgrifeniadau santaidd. Dynoda y gair fod Crist yn bodoli cyn iddo ymddangos yn y cnawd. Yn awr y mae y profion o hyn a'r cyfeiriadau ato yn aml a phendant iawn yn y Beibl. " Yn y dechreuad yr oedd y Gair, a'r Gair oedd gyda Duw, a Duw oedd y Gair. —A'r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith ni (a ni a welsom ei ogoniant ef, gogoniant megys yr Unig-anedig oddiwrth y Tad) yn liawn gras a gwirionedd." Yn nyddiau Ioan Fedyddiwr, a'r wlad yn ferw o'i blegid ef, a llawer yn meddwl ac yn ymofyn ai nid efe oedd y Orist, anfonodd yr Iuddewon—blaenoriaid y genedl, mae yn debyg—ddirprwyaeth anrhydeddus o ofíeiriaid a Lefiaid i ofyn i Ioan pwy ydoedd, ai efe oedd y Crist. Beth oedd ateb loan? Ateb yn cyffesu nad efe oedd y Crist, ac nad oedd ef ddim ond «enad wedi ei ddanfon o'i flaen ef i ddweyd ei fod yn dyfod. A chan gyfeirio at yr Iesu efe a dystiolaethodd, " Hwn oedd yr un y dywedais am dano, Yr hwn sydd yn dyfod ar íy ol i, a aeth o'm blaen i: canys yr oedd efe o'm blaen i." Yr oedd loan o fiaen yr Iesu o ran oed fel dyn, ac o ran amser ei ymddangosiad i'r Israel; ae nid allai fod gan Ioan uu meddwl arall mewn golwg wrth ddweyd, "Yr oedd efe o'm bîaen i," ond rhaghanfodiad yr Iesu cyn iddo ymddaagos yn y cnawd. I'r un ystyr yr oedd tystiolaeth yr Iesu wrth Nicodemus, " Ac ni esgynodd neb i'r nef, oddi- eithr yr hwn a ddisgynodd o'r nef, sef Mab y dyn, yr hwn sydd yn y nef.*' Felly hefyd yr ymadrodd hwnw, "Myfi yw y bara bywiol, yr hwn a ddaeth i waered o'r nef." Tramgwyddodd yr Iuddewon wrth yr ymadrodd hwn. Wel, i ochel hyny, fe dynodd yr Iesu ei eiriau yn ol, neu fe gymedrolodd eu heffaith, trwy ostwng tòn yr hòniad yna ychydigî Naddo, daiiodd yr un gwirionedd dysglaer drachefn o flaen eu llygaid mewn dull mwy penodol ac uchelhÖniadol nag o'r blaen, gan ddweyd, nid jn unig ei fod wedl dyfod o'r nef, ond ei íod i esgyn yno drachefn. "A ydyw hyn," meddai, "yn eich rhwystro chwil Beth gan hyny os gwelwch Fab y dyn yn dyrchafu lle yr oedd efe o'r blaen?" Yr un modd, mewn lle arall, dywed yr Iesu wrth yr Iuddewon, mewn ymddyddan a gymerodd le rhyngddo a hwynt ya y deml, "Gorfoledd oedd gan eich tad Abraham weled fy nydd i j ac efe a'i gwelodd hefyd, ac a lawenychodd." Cyffrodd y geiriau hyn ddirmyg a chenfigen yr Iuddewon yn ddirfawr, a dywedasant, 4*Nid wyt ti ddeng mlwydd a deugain etto, ae a weiaist ti Abraham?,, Beth oedd ateb yr Iesu i hyn? "Wel, ateb a barodd i'r Iuddewon godi cèryg iV taflu ato gan chwerwedd eu cynddar- «dd, am ei fod yn dychwelyd i wneud tystiolaeth fwy pendant nag o'r blaen Chwsíäor, 1868. »