Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: gtda'r hwn y mae "yr annibynwb" wedi ei uno. ANERCHIAD I DDABLLENWYR Y DYSGEDYDD, Anwyl Gyfeillion—Y mae cenadaeth ein cyhoeddiad yn bwysig iawn yn ei berthynas â phynciau cyhoeddus yr amserau. Y mae y rhai hyny yn dal perthynas agos âg Ymneillduaeth yn gyffredinol, ac âg Annibyniaeth yn neillduol. Os edrychwn ar ansawdd y teyrnasoedd yn y dyddiau hyn—y Senedd a'i gweithrediadau yn ein gwlad—yr Undebau crefyddol a'u cyn- nadleddau—yn nghyda syniadau cyhoeddus y bobl, o bob dosbarth—y maent oll yn ymuno i roddi hawsder arbenig i'n henwad weithio allan ei egwydd- orion i bwrpas ; a chynnorthwyo yn hyn ydyw amcan y Dysgedydd. Wrth gyfeirio at y Senedd, y " Diwygiad yn y Gynnrychiolaeth" sydd yn sefyll yn fwyaf cyhoeddus o bobpeth; ac ni bydd modd myned yn mlaen gydag unrhyw bwnc arall o bwys hyd nes y byddo hwn wedi ei benderfynu. Y mae y golygiad presenol ar bethau yn ymddangos yn ffafriol iawn. Y mae y Rhyddfrydwyr yn cael y ffordd yn glir o'u blaen; nid oes ar y Toriaid eisieu dim ond yr enw—y maent yn ildio yn mhob pwnc. Y mae y chwyl- droad diweddar yn y Weînyddiaeth, y fradwriaeth ddirmygedig a luniwyd gan dylwyth "Ogof Adulam," a'r cyfarfodydd mawrion diwygiadol, y naill dro ar ol y llall, oll wedi cydweithio er daioni. Y mae yn rhyfedd meddwl fel y mae yr hen Doriaid mwyaf cyndyn ac anhyblyg, wedi cael eu dir- wasgu i fod yn Rhyddfrydwyr o'r dosbarth mwyaf agored! Y mae yn syn meddwl am yr Ysgrif Ddiwygiadol a gynnygiodd John Bright i sylw y byd er's llai na deng mlynedd yn ol, ac a hwtid y pryd hwnw gan nifer mawr o bob plaid, fel amcan peryglus at chwyldroad a dinystr, ei bod erbyn hyn, wedi dyfod yn dderbyniol a chymeradwy gan bawb! Y mae yr hen Geid- wadwyr yn dywedyd yn awr, eu bod hwy yn bleidiol i hawl pob tŷ-ddeiliad yn yr etholfraint o'r dechreuad! Y mae llais y wlad wedi cael ei ddatgan mor groew erbyn hyn, fel y mae pob plaid wedi gweled na lonyddant ddim, nes cael eu hiawnderau, fel y mae pawb yn nofio gyda'r llif, ac yn haeru mai dyna oedd eu cyfeiriad hwy er y dechreu. Fel hyn y cawn, o'r diwedd, fod Bright a Gladstone, Lowe a Disraeli, yn teithio gyda'u gilydd yn yr un cerbyd. Bellach, ymddengys pob arwyddion i'n cefnogi i ddysgwyl gweled yr Ysgrif Ddiwygiadol yn gyfraith y tir yn fuan iawn. Y mae cymeradwyaeth yr Ysgrif Ddiwygiadol yn y Senedd yn gosod i lawr sylfeini diwygiadau pwysig yn mhob cyfeiriad. Daw cynnilgarwch yn lle gwastraff, trefniant cyson yn lle trethi, rheol yn lle swyddogaeth segur, a lleihad ar drais-orthrwm yn mhob modd. Bydd hyn yn ymwared gwerth- fawr—bydd gan y werin fodd i fynu clywed eu llais yn nghynghorau y GORPHENAF, 1867. T