Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: cyda'r hwn y mae "yr annibynwr" wedi ei uno. ANERCHIAD I FYFYRWYR ATHROFA Y BALA. GAN Y PARCH. J. THOMAS, LTTERPOOL. Ft Anwyl Gyfeillion—Yr wyf yn sefyll ger eich bron heddyw yn " gauwr yr adwy." Nid wyf yn ystyried hyny yn un diraddiad arnaf. Felly y dynodwyd fy ngwell o'm blaen. ' Mae ein hanwyl frawd, y Parchedig W. Griffith, Caergybi, wedi ei analluogi i fod yn bresenol i roddi Anerchiad i chwi yn ol y trefniad cyntaf. Buasai yn dda iawn genyf pe gallasai fod yma i roddi i chwi ffrwyth ei sylw craff—ei farn bwyllog— a'i broflad helaeth wedi hanner can' mlynedd o bregethu. Ond y mae Pen yr Eglwys wedi gweled yn dda ei alw o'r neilldu am ychydig, ac ychydig iawn, gobeithio. Dymunaf iddo adferiad buan, ac estyniad einioes am flynyddoedd lawer etto i "wasanaethu Duw yn efengyl ei Fab." Tn y cyfwng yma anfonodd eich hybarch athraw, a'm hanwyl gyfaill, Mr. Jones, ataf i geisio genyf ddyfod yma i roddi gair o gyfarchiad i chwi; ac er fod y rhybudd yn lled fyr, a minnau yn mhrysurdeb gorchwylion eraill, etto nis gall- aswn, dan yr amgylchiadau, droi y gwahoddiad caredig heibio. Meddyliais fod gair fel yna o eglurhad yn angenrheidiol oddiwrthyf cyn dim arall. Yr ydych chwi yma oìl a'ch wyneb ar y weinidogaeth—" wedi chwennychu swydd esgob;" ac yn hyny wedi "chwennychu gwaith da." . "Yr ydwyf yn mawrhau fy swydd," meddai Paul. Teimlai fod y swydd yn deilwng o'i dalentau, ei ddysgeidiaeth, ei hyawdledd, a'i ymroddiad mwyaf trwyadl. Treuliai ac ymdremliai yn y cyflawniad o honi, ac nid oedd ei einioes ei hun yn werthfawr ganddo, os gallasai "orphen ei yrfa trwy lawenydd, a'r weinidogaeth a dderbyniasai gan yr Arglwydd Iesu, i dystiolaethu efengyl gras Duw." Ei swydd oedd pob peth ganddo. Ac os teimlai Paul fod ei weinidogaeth yn ddigon i'w feddwl galluog ef, yn sicr y mae yn llawn ddigon i'n medd- yliau cyffredin ni, heb ymrwystro gyda dim arall. Yr amcan yn eich derbyniad a'ch cadwraeth yma ydyw, cael pob un o honoch ar ei ben ei hun yn " weinidog da i Iesu Grist," a'ch cael gyda'ch gilydd yn "weinidogion cymhwys y Testament Newydd." Sefydliad ydyw hwn i gymhwyso dynion ieuainc i'r weinidogaeth, ac y mae pob peth a wneir yma yn cael ei wneud gyda golwg ar hyny. Derbyniwyd chwi i'r Athrofa ar y dealltwriaeth eich bod yn meddu y cymhwysderau hanfodol i'r gwaith. Yr eglwysi a'ch cododd sydd yn gyfrifol am hyny. Cwynir yn aml na byddai ein Hathrofeydd yn troi allan well dynion. Maent yn troi allan y dynion goreu y mae yr eglwysi yn eu hanfon i mewn. Nis gall yr athrawon ond gweithio ar y defnyddiau a roddir dan eu dwylaw; ac y mae un peth yn sicr, fod pob un yn myned allan rywfaint yn amgen nag yr aeth i mewn, er y gall y driniaeth fu arno beri i'w ragoriaethau ymddangos yn llai, a'i ddiffygion yn fwy. Yr eglwysi sydd yn codi y pregethwyr sydd yn gyfrifol am danynt, nid oes gan athrawon a phwyllgorau fawr i'w wneud ond eu derbyn ar eu tystiolaeth. Ac os eiddil a dinerth mewn deall a chrefydd ydyw y pregethwyr a godir, nid yw hyny yn ddim ond prawf mai dyna sefyllfa ddeallol a chrefyddol yr eglwysi Mai, 1867. n