Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: GTDA'r HWN T MAE "TR ANNIBTNWR" WEDI EI UNO. ATTAL Y TAFOD. "Os yw neb yn eich mysg yn cymeryd arno fod yn grefyddol, heb attal eidafod, ond twylloei galon ei hun, ofer yw crefydd hwn," Iago i. 26. Penaf peth ydyw crefydd: o bob peth y hi ydyw y pwysicaf a gwerthfawr- ocaf. Dylem " gymeryd arnom fod yn grefyddol," a dylem fod felly hefyd mewn gwirionedd. Nid digon ydyw bod yn grefyddol heb "gymeryd amom" fod felly; ac nid digon ydyw "cymeryd arnom" heb fod felly yn wirioneddol. Ni wna y rhith mo'r tro heb y grym, ac ni wna y grym ateb y dyben heb y rhith. Rhaid cael y rhith gyda'r grym, a rhaid cael y grym gyda'r rhith. Dylem ogoneddu Duw â holl aelodau y corff, yn gystal ag â holl gyn- neddfau yr enaid. Y mae ein cyrff i fod yn ebyrth byw, santaidd, a chymer- adwy, oblegid hyny ydyw ein "rhesymol wasanaeth." Dylem ochel rhoddi aelodau y corff i fod yn " arfau anghyíiawnder." Y mae i'r tafod ran enwog yn ngwasanaeth Duw. Y mae tafod iawnlywodraethedig a chrefydd bur yn bethau cysylltiedig; ac y mae tafod afreolus a chrefydd ofer yn bethau felly hefyd. Gogoniant dyn ydyw ei dafod; ei leferydd a esyd ragoriaeth arno ar greaduriaid eraill. " Deffro, fy ngogoniant," ebe y Salmydd, (Salm lvii. 8). Gallu dyn i draethu geiriau mawl i'w Grëwr ydyw ei ardderchogrwydd. "Parod yw fy nghalon, 0 Dduw; canaf a chanmolaf â'm gogoniant," Salm cviii. 1. "Fel y cano fy ngogoniant i ti," Salm xxx. 12. Pan y defnyddir y tafod i'r gorchwyl hwn, efe ydyw gogoniant dyn. Y mae y tafod yn ogoniant i ddyn pan y rhydd ogoniant i Dduw. Galarus ydyw meddwl fod yr aelod a roddwyd i fendithio, yn fynych yn cael ei arfer i felldithio; yn lle moli, y mae yn aml yn cablu. Dylid cadw gwyliadwriaeth fanwl a llywodraeth gref arno bob amser. Nodwn yma y tafodaü sydd raid eu hattal. 1. Y tafbd celwyddog. Hoffa hwn draethu twyll; gwna hyn ambell dro i foddio malais y galon, dro arall mewn ysfa am ddifyrwch, a thro arall er mwyn cyrhaedd elw a manteision bydol. Rhwydd iawn ydyw i addunedu, ond esgeulus iawn ydyw i gyflawni. Nôd y Cristion cywir ydyw, "Yr hwn a dwng i'w niwaid ei hun, ac ni newidia," Salm xv. 4. Gwell gan- ddo fod yn ei golled trwy eirwiredd, nac yn ei ennill trwy dwyll. Y mae yn "lan ei ddwylaw ac yn bur ei galon; ni ddyichafodd ei lygaid at wagedd, ac ni thyngodd i dwyllo," Salm xxiv. 4. Nid geiriau teg na hbniadau uchel a brawf wirionedd ein crefydd, ond ufudd-dod calon, genau, a buchedd. Màwrth, 1867. g