Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: gtda'» hwn t mae "tb annibtnwe" wedi ei üno. Y FLWYDDYN 1866. ERTHÎGL I. Dyma y flwyddyn hynod hon hithau ar derfynu, a chyn y bydd yr hyn ä ysgrifenwn yn awr am dani ger bron llygaid ein darllenwyr, bydd wedi ei rhifo yn mhlith y blynyddau a aethant heibio. Yr oedd y flwyddyn 1866 wedi ei hynodi er's llawer iawn o flynyddau cyn i amser roddi genedigaeth ìddi, a theilynga ei henw a'i choffadwriaeth sylw arbenig, ar y cyfrif hwnw, wedi iddi fyned heibio. Yr oedd lluaws o esbonwyr a beirniaid ysgrythyrol wedi pwyntio eu bysedd ati er's ugeiniau o flynyddoedd, fel yr un, yn ol eu barn hwy, yr awgrymid ati yn mhrophwydoliaethau Daniel ac Ioan, fel amser cyflawniad rhai o'r prif ddygwyddiadau y prophwydent am danynt. Chwennychodd llawer un o fyfyrwyr a darllenwyr yr esboniadau hyny ar weledigaethau y "gwr anwyl" yn Caldea, a'r "dysgybl anwyl" yn Patmos, am gael byw ac aros ar y ddaear hyd oni ddeuai, ac onid elai y flwyddyn hon heibio, ac nis cawsant. Yn ein mysg ni y rhai byw, y rhai a adawyd hyd ei dyfodiad, yr oedd lluaws yn teimlo dyddordeb cynnyddol gyda golwg arni, fel yr oedd ei hamser yn agosâu. Ymofynent, a manwl graffent ar arwydd- ion yr amserau yn ystod y blynyddau diweddaraf, i edrych a oedd rhagolygon addawol i'w canfod am gyflawniad y prophwydoliaethau yn unol â'r esboniadau. Yr oedd dau ddosbarth o esbonwyr ar y prophwydoliaethau hyny yn yr Eglwys Brotestanaidd o'i dechreuad hyd yn awr. Mynai un dosbarth nad oedd gweledigaethau Daniel ac Ioan yn gweled ddim yn mhellach na dinystr Jerusalem, a gwasgariad y genedl Iuddewig, ar derfyniad goruchwyliaeth yr hen gyfammod; au bod gan hyny wedi eu cyflawni yn y dygwyddiadau hyny. Felly nad oes ynddynt ddim yn dal perthynas â chodiad a chwymp y Babaeth a Phabyddiaeth. Golyga y dosbarth arall, a'r dosbarth lluosocaf, bod gweledigaethau y ddau brophwyd yn canolbwyntio yn Rhufain Babaidd yn neillduol—mai cyfodiad a chwymp yr eglwys lygredig, anghristaidd, ac erledigaethus hòno, yw eu prif nôd; a chredwn ninnau mai hwynthwy sydd yn eu lle. Wrth ystyried a manwl gymharu geiriau ac awgrymiadau y gweledigaethau ysbrydoledig â hanes dechreuad a chynnydd Pabyddiaeth, syi"thiodd amryw esbonwyr o'r dosbarth hwn i'r farn y cwympai awdurdod a nerth y Babaeth tua'r flwyddyn 1866. Profodd amser lawer deongliad ar brophwydoliaethau y gair yn gamsyniol o bryd i bryd, ac yr oedd hyny wedi gwanhau ffydd darllenwyr yn gyffredinol mewn deonglíadau o'r fath. Aeth Ionawr, 1867. x