Skip to main content

Y DYSGEDYDD: gyda'r iiwn t mae "yr annibynwr" wedi ei rNO. MYFYÜDOD YN Y GYFRAITH. GAN Y PARCH. T. E. EVANS, DIWEDDAR O MANCHESTER. Îîhyfedd gynnifer o weithiau y cyfeiria y Salmydd at y gyfraith, nid oes nemawr i adnod yn Salm cxix. nad ydyw yn ei chrybwyll o dan ryw enw neu gìlydd—y gyfraith a roddwyd trwy Moses olygai, nid oedd chwaneg ganddo. Am hòno y dywedaì, "Gwell i mi gyfraith dy enau na miloedd o aur ac arian."—" Mor felus yw dy eiriau i'm genau! melusach na mel i'm safn."—"Gwel fy mod yn hoffì dy orchymynion."—"Mor gu genyf dy gyfraith dì! hì yw fy myfyrdod beunydd." Mae genym ni lawer chwaneg o eiriau Duw nag a gafodd Dafydd. Yr oedd gan dduwiolion y Testament Newydd gryn lawer chwaneg nag oedd ganddo ef. Yr oedd yr oll o'r Hen Destament ar gael cyn dyfodiad Crist, a phan ddaeth y Mess'ia, cymhellai yr Iuddewon i " chwilio yr y? grythyrau." Yr Hen Destament oedd Beibl lesu Grist, ac mae yn ddyddorol meddwl fcd un llyfr yn aros, a hwnw yn meddiant pawb o honom, ddarllenodd Iachawdwr y byd, ac yr oedd yn gyfarwydd ynddo. Cyfeiriai ato, a dyfynai yn fynych o hono yn ei anerchion a'i bregethau. Mae genym ni y grasa'rgwirioneddaddaeth trwyddo ef, yn gystala'rhyn a roddwyd trwy Moses a'r prophwydi: "Yr holl ysgrythyr sydd wedi ei rhoddi gan ysbryd- oliaeth Duw." Nid gormod dywedyd fod meddyliau y werin yn ymddyeithrio oddiwrth "y gyfraith," "y gair," "yr ysgrythyrau," apheth angenrheidiol iawn yw eu galw yn ol " at y gyfraith ac at y dystiolaeth." Rhoddir cryn sylw i'r papyrau newyddion, ond nid cymaint ag a ddylid gan lawer. Gresyn fod cynnifer yn ein gwlad yn anwybodus o helyntion a newidiadau pwysig gwladwriaethol. Tra mae rhai yn treulio eu hoes mewn ymdrech am eu hiawnderau fel dinasyddion ac fel Anghydffurfwyr, a thrwy y wasg yn galw ar y wlad i gydweithredu ac i uno â hwy yn wrol a chydwybodol yn yr ymdrech, bydd lluaws yn hollol anwybodus o bob peth wnant, ddywedant, ac a ysgrifenant. Ond â'r gyfraith mae a fynom yn bresenol. Mae llawer heb fod ganddynt ond ychydig amser i ddarllen, a llawer heb chwaeth at ddarllen, a llawer mwy yn amddifad o chwaeth i fyfyrio ar yr hyn a ddarllenir. Mae yn syn gymaint o anwybodaeth geir mewn Uawer o engreifftiau, hyd yn nod yn mhlith deiliaid yr Ysgol Sabbathol, a rhai sydd wedi gwrando yr efengyl o'u mebyd. Fe welir hyn weithiau yn ein cyfeillachau crefyddol, wrth yr atebion geir i'r gofyniadau mwyaf syml gan y rhai a geisiant aelodaeth yn ein heglwysi; byddant wedi darllen darnau o'r Beibl, a gwrando cannoedd o bregethau, ond eu meddyliau megys heb ddeffro i feddwl nemawr ddim—heb ymagor digon i dderbyn hyd yn nod " llacth y gair," fel y maent er eu holl fanteision yn hynod o anwybodus o wirioneddau trefn iachawdwriaeth; wedi arfer edrych ar bictures neu ryw bethau cyffrous yn y pregethau, a chyfyngu eu sylw i'r rhai hyny, a chael eu denu ganddynt fel plant â theganau. Mae dwy elfen yn perthyn i wir dduwioldeb—y fyfyriol a'r ymarferol. Greeyn fod Tachwedd, 1866. 2 h