Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: gyda'r hwk y mae "yr ANNIBYNWR" WEDI EI UNO. HATJ GWYNT-MEDI COBWYNT. Y mae diarhebion wedi cario dylanwad mawr ar galon a buchedd y byd, Po bellaf yr awn yn ol yn hanes dynolryw, mwyaf a ganfyddwn o effeithiau y deddfau anysgrifenedig hyn ar nodweddiad cenedloedd. Pan oedd dar- llenyddion yn brin, ac ysgrifenyddion yn brinach, gorweddai deddfau gwled- ydd ar dafodau y trigolion yn eu diarhebion, ac effeithient yn ddyfnach na chyfreithiau brenhinoedd a buddugoliaethau gormeswyr. "Drychfeddwl aruchel," meddai George Gilfillan, "oedd ceulo i fyny synwyr cyffredin dynolryw i ffurf dymunol a chludadwy—casglu gỳroedd o feddyliau gwyllt a chrwydredig i gorlanau diarhebion. Cymharwyd diarhebion i heidiau o adar gwyddonol. Traethant wirioneddau mawrion cyffredinol. Dangosant fod yr un egwyddorion a theimladau wedi dylanwadù ar bob oes, a thrwy hyny profant undod dynoliaeth. Argraffant yn anfwriadol hen arferion a defodau; a gwasanaethant fel bathodynau yn gystal ag fel arwireddau. Trosglwyddant fel chwedlau wirionedd i'r ieuanc yn holl newydd-deb a nerth ffugiaeth." Y mae y Beibl wedi ei fritho â doetheiriau diarebol. Ceir y Gwaredwr ei hunan yn eu mynych ddyfynu yn ei ymddyddanion a'i bregethau; ac y mae Paul a'i frodyr yn defhyddio llawer o honynt yn eu hepistolau. Nid yw y ddiareb, "Hau gwynt, a medi corwynt," i'w chael yn ei ffurf wreiddiol yn yr ysgrythyr; ond y mae cymhwysiad o honi i'w weled yn Hos. viii. 7: " Gwynt a hauasant, a chorwynt a fedant." Yr oedd cenedl Israel, drwy ei hir anffÿddlondeb i Dduw a'i gyfammod, wedi bod yn hir "hau gwynt," ac yr oedd cynhauaf ofnadwy y "corwynt'* yn nesâu, yn y barnedigaethau a oddiweddasant y camweddwyr. Parhaodd y cynhauaf hwnw ddeng mlynedd a thriugäin, yn y caethiwed blin yn Caldea. Wrth ddarllen hanes teyrnasoedd, yr ydym yn gweled y ddiareb yn cael ei gwirio i'r llythyren. Mor fynych y canfyddwn ormeswyr trahaus yn mathru iawnderau eu deiliaid—yn chwerthin am ben eu mynych gwynion o dan bwys eu cadwynau, ac yn y diwedd yn cael eu hyrddio i warth o flaen cynddaredd y gorthrymedigion! Bu mân-awdurdodau Itali yn "hau gwynt" am flyneddau, ac yn gorfod "medi corwynt" o fewn cylch eiu cofion ni. Y mae breuddwydion gobeithlawn Itali ieuanc yn cael eu sylweddu heddyw yn Naples, Tuscany, Parma, Modena, <fec, lle y bu gormeswyr yn "medi cor- wynt" ger bron y byd yn y blyneddau diweddaf. Ac nid oes genym ddeigr- yn i'w hebgor dros Awstria yn nydd ei darostyngiad, pan gofiom ei gormes gwarthus yn Bohemia, Hungary, <fec. Daeth ei hawr hithau i ben. Nid oes dim yn agwedd Ewrop yn peri i ni fwy o syndod na bod amser cynhauaf HYDREr, 1866. 2e