Skip to main content

Y DYSGEDYDD: OTDA K HWIT T JIAR "îE A.NNIBTNWR" WEDI BI UNO. GWIRIONEDD Y GAIR. " Gwir yyr j gair, ac yn haeddu pob derbyniad, ddyfod Crist Iesu i'r byd ì gadw pechaduriaid; o ba rai penaf ydwyf fi," 1 Tim. i. 15. Wrth "y gair" yr ydym weithiau i ddeall yr ysgrythyrau yn gyffredinol, brydiau eraill rhyw gyfran benodol o honynt. Yn yr ystyr olaf hwn yr ydym i ddeall y testun. Y gair y sonia ein testun am dano yw y dystiolaeth ddyfod Crist Iesu i'r byd i gadw pechaduriaid. Dywedir am y dystiolaeth hon mai gwir ydyw; ac felly y mae yn wahanol iawn i'r rhan fwyaf o dyst- iolaethau y byd hwn. Aml iawn yr ydym yn cael tystiolaethau cainpus ganddo ef—geiriau rhagorol; ond oddiar hir brofiad y mae yn arferiad genym ddweyd, erbyn hyn, fod llawer o honynt yn rhy dda i fod yn wir. Nid felly y dystiolaeth hon—y gair y cyfeirir ato gan yr apostol. Sylwn— I. Ar gynnwysiad y gair—"Ddyfod Crist Iesu i'r byd i gadw pechad- uriaid." Y mae hyn yn cynnwys dau beth:— Yffaith syml o ddyfodiad Crist i'r byd. Beth bynag ydoedd ei amcan yn dyfod, y mae hon yn ffaith bwysig ynddi ei hun. Y mae yn ffaith ddigon pwysig i roddi bri ac enwogrwydd parhaol ar ein daear yn mhlith y bydoedd aneirif a'i cylchynant. Nid oes genym hanes ddarfod i Fab Duw dalu ymweliad mor neillduol âg un byd arall—ddarfod iddo fyw yn natur ac amgylchiadau y trigolion. Ond gwnaeth hyny â'n byd ni—daeth "Crist Iesu i'r byd." Ystyrir llawer man yn enwog ar wyneb y ddaear am fod rhyw berson o enwogrwydd wedi ymweled âg ef. Erbyn hyn y mae ynys Patmos yn enwog am fod yr apostol íoan wedi cael ei alltudio yno. Ond os ydoedd alltudiad y gwas yn ddigon i roddi urddas ar yr ynys anghyfannedd hòno, pa faint mwy y gellir dysgwyl fod dyfodiad gwirfoddol y Meistr i fod yn un o'i thrig- olion, wedi rhoddi bri ac enwogrwydd ar ein daear? Yr oedd dyfod i'n byd ni o gwbl yn gofyn hunanymwadiad mawr yn Mab Duw. Dyýod i'n byd ni a wnaeth; ac y mae hyny yn dangos ei fod wedi dyfod iddo o rywle arall. Ac nid ydy m o dan ein dwylaw am natur y lle y daeth o hono \ daeth o'r nef ei hun. Ac y mae y cyferbyniad rhwng y nef a'r ddaear yn annhraethol fawr hyd yn nod pan gymerir yr olwg oreu ar y ddaear. Ond pa beth a feddyliwn am y byd hwn yn ymyl y nefoedd pan edrychom ar ei bechod, ei drueni, a'i wae! O ran dim a wyddom ni, y byd hwn yw yr agosaf i \iffern ei hun o ran ei sefyllfa ysbrydol. Ac oni b'ai ddyfod Crist lesu iddo, uffern ei hun a fuasai. Ond er gwybod am y cyfan yn mlaen llaw, daeth Crist Iesu i'r byd, gan gymeryd arno agwedd gwas. Daeth i ddyoddef a marw, yn gymhwys fel pe buasai efe y gwaethaf o'r trigolion. Meuefin, 186G. «