Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD «tda'r hwn t mae "tr annibtnwr" wjedi ei ttno. PYNCIAU CYHOEDDUS Y TYMMOE. Weth gyineryd golwg gyfFredinol ar sefyllfa y deyrnas a'r gwledydd, yn y dyddiau presenol, y raae amrywiaeth o bynciau yn cynnyg eu hunain i'n sylw yn naturiol. Ar arabell adeg, bydd rhyw un pwnc neillduol, o ran ei ddyddordeb, yn cuddio pob peth arall o'r golwg, ac yn cymeryd raeddiant hollol o deiralad y cyhoedd; ond yn awr, y mae ystyriaeth a sylw yn cael ei dynu o amryw gyfeiriadan, at wahanol bynciau neillduol a chyhoeddus. Y mae agoriad y Senedd, a chynnwysiad araeth y Frenhines ar yr achlysur diweddar, yn denu sylw cyffredinol yn y dyddiau hyn. Yn gyffredin, ym- ddengys yr hyn a osodir yn ngenau Victoria fel ciynswm,o eiriau, wedi eu bwriadu i daro yn seingar ar y glust, ond yn hollol wag o bob ystyr a meddwl, ac felly yn hollol ddibwynt, ac heb ateb unrhyw ddyben ymarferol. Pa fodd bynag, nid felly y mae gyda'r un bresenol. Pa mor ddiífygiol bynag ydyw o ran nôd a phenderfyniad, y mae yn cydnabod pynciau pwysig iawn. Y mae Diwygiad Seneddol o'r diwedd wedi cael ei le. Hyderir y ceir eangiäd ar gylch hawl yr etholfraint, ac y daw miloedd o enwau i restr y pleidleis- wyr na buoàt yno erioed o'r blaen. Proffesa Iarll Russell benderíyniad y Weinyddiaeth i sefyll neu syrthio ar y pegwn hwn. Awgrymir felly yn gryf, y gwneir rhywbeth yn y pwnc maith-ohiriedig hwn. Y mae yn beth priodol iawn fod sylfaenydd y mesur diwygiadol ar y cyntaf yn ymgymeryd â'i adgyweiriad ar hyn o bryd. Y mae egwyddor Rhyddid yn gweithio ei ífordd yn mlaen fel hyn yn raddol. Os ydyw troad yr olwyn yn gwmpasog, y mae yn rheolaidd a didroi yn ol; ac y mae gormes a chaethiwed, yn eu holl agweddau, yn colli y dydd yn mhob gwlad. Y mae hyn yn cael ei ddangos yn eglur iawn yn awr, hyd yn nod mewn gwledydd fel Hispaen ac Awstria. Y mae* y penaeth coronog yn y blaenaf yn ceisio Uochesu gor- thiymder Pabyddol yn ei holl bwysau ar war y bobl; ond fel y mae llawer yn cynniweirio, a gwybodaeth yn amlhau, y mae yr holl gaethrwymau yndryllio yn dipiau mân. Y mae yr ymerawdwr yn yr olaf yn dechreu dysgu doeth- ineb. Y maeyn gîiprando ar gŵynion y gorthrymedig, ac yn. cydnabod hawliau y deiliaid; ac oddiar gredu fod gan y werin farn, yn tueddu i wrando ar eu llais. Dyma wir seiliau eadernid a diogelwch gorsedd pob gwlad. Y mae cynnydd diwygiadau mewn gwledydd eraill yn dysgu gwersi pwysig i ninnau, ac yn dangos, os mynwn gadw yr enw a'r anrhydedd yr ydym wedi eu hennill, fod yn rhaid i ninnau fyned rhagom yn ein giymusdra hwn. Cydnabyddir achos cyflafan Jamaica fel helynt pwysig iawn. Cadwodd y deyrnas hon ei haŵhydedd, i raddau mawr, wrth sefydlu yr ymchwiliad y penderfynwyd arno i achos ac effeiẃiau y trychineb mawr. Nid oedd rhyddid y bobl dduón ŷno yn ddim amgenna llam-chwareti yn ngolwg y SbrìI/1/, T806. k