Skip to main content

Y DYSGEDYDD: gyda'r iiwn y mae "yr annibynwr" wedi ei uno. EHYWBETH AM RYWUN, Gwr hynod yw Rhyicun yn mhob oes, ac yn mhob man. Gwr y mae llawer o son am dano bob dydd. Parodd lawer o anghydfod yn mysg dynion erioed, drwy husting a sibrwd chwedlau annymunol yn nghlustiau y naill am y llall; a phan ymofynir am dano, i'w alw i gyfrif, ymguddia Rhywun yn rhywle, fel na ellir byth gael gafael arno. Yr oedd Solomon yn hysbys o lawer o'i deulu, yn ei amser ef, ac y mae efe yn dysgrifio amryw fathau o honynt: u Rhywun a ddywed eiriau fel brath cleddyf." Un peryglus ydyw hwn i fod yn agos ato, nac ymdrafod dim âg ef. Ceidw fin da ar ei gleddyf —ei dafod, bob amscr, ac y mae yn barod i'w dynu allan o'r wain, ac i frathu âg ef, ar bob achlysur. Gofala yr hwn a brofodd awch ei ellyn llym unwaith, i ymgadw o'i gyi haedd hyd y gallo drachefn. Yr oedd ei ofn yn fawr ar y Salmydd, canys y mae yn achwyn llawer arno, ac yn gweddi'o am gael ei gadw rhagddo. "Cudd fi," meddai, "rhag cyfrinach y rhai drygionus; rhag terfysg gweithredwyr anwiredd: y rhai a hogant eu tafod fel cleddyf, ac a ergydiant eu saethau, sef geiriau chwerwon. Golymasant eu tafodau fel sarph," &c. Ond nid am hwn y bwriadem draethu, a gwell i ni ei adael ar hynyna, a phrysuro oddiwrtho, rhag dygwydd i ni ei gyffroi, a pheri iddo dynu ei gleddyf allan i'n herbyn. . Dyma un arall o'r teulu—"Rhywun a ymŷrostia ei ýod yn gy/oethog, ac heb ddim ganddo." Gwalch twyllodrus a diffaith ydyw hwn etto. Un yn byw yn fras ar eiddo pobl eraill ydyw. Ymdrecha roddi ar ddeall i bawb ei fod yn meddu llawer o gyfoeth, pan y gwyr efe yn dda nad yw yn etifeddu dim ond dyledion, a llwydda yn aml drwy hyny i gael eiddo dynion ehud a diniwaid i'w ddwylaw. Do, gwnaeth y Rhywun hwn hafoc o golledion i'w gymjTlogion lawer gwaith, drwy ei ífugiau a'i gastiau. Ond nid efe chwaith oedd y gwrthddrych yr amcanem alw sylw ato y tro hwn, ond darfod i ni ddygwydd dyfod megys ar ei draws. Ond dyma un arall etto o'r frawdoliaeth yn ymyl y llall, sef, "Rhywunarall eijodyn diawd, achyfoeth lawer iddo.'' Nid yw hwn fawr iawn well na'r llall. Un cyfrwysgall, llwynogaidd yw efe. Cymer gymaint o drafferth i beri i bawb gredu ei fod yn dlawd, ac a gymer y llall i beri i bobl feddwl ei fod yn gyfoethog. Y mae agwedd dyn tlawd arno yn ei dŷ, ac allan o'i dŷ; gwisg dyn tlawd fydd am dano, a saig dyn tlawd fydd ar ei fwrdd, fel pe mynai ai'gyhoeddi ei fol a'igefn ei hun mai dyn tlawd ydyw mewn gwirionedd; Achwyna yn ddoniol ar galedi'r amseroedd, os eir ato i ofyn dim ganddo at unrhyw achos elusenol, neu grefyddol, fel y gallai un na wyddai ddim am dano dybied ei fod yn wrthddrych mwy priodol i roddi elusen iddo, nac i ofyn dim ganddo. Efe a â at bobl eraill i ofyn benthyg arian, rhag ofu i bobl eraill ddyfod ato ef i fenthyca ganddo. Llawer haws fyddai ganddo Mawrth, 1866. g