Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: oyda'r hwn y mae "yr annibynwr" wedi ei üno. Y WEINIDOGAETH, " Ond yr Arglwyd'l a ddywedodd wrthyf, ÌSTa ddywed, Bacligen ydwyf : canys ti a fti at y rhai oll y'th anfonwyf, a'r hyn oll a orchymynwyf i ti a ddywedi. Nac ofna rhag eu hwynebau hwynt: canys yr ydwyf fi gyda thi i th waredu, medd yr Arglwydd," Jjsn. i. 7, 8. Dwy linell arbenig yn ngweinidogaeth Jeremiah ydyw dwysder teimlad, a hyfder ymadrodd. Mae ei ysgrifeniadau yn llawn prudd-der difrifddwys; ac yn y cwbl y mae yn arfer hyfder mawr. Traetha ei genadwri yn hyf, " fel y perthyn i genadwiú y gwirionedd gael ei thraethu." Galwyd ef gan yr Arglwydd yn foreu, pan nad ydoedd ond bachgen. Dechreuodd brophwydo yn y drydedd ílwyddyn ar ddeg o deyrnasiad Josiah, brenin Judah; dros ddyddiau teyrnasiad Jehoiacim, mab Josiah, ac am un mlynedd ar ddeg o deyrnasiad Sedeciah, mab Josiah ; am yr ypsaid hirfaith o 45 mlynedd: ac yr oedd treulio 45 mlynedd yn y weinidogaeth, yn yr oes a than yr amgylch- iadau y treuliodd Jeremiah hwy, yn brofiad tanllyd yn wir. Mae ei bro- phwydoliaeth mewn rhan yn hanesiol, ac mewn rhan yn rhagfynegiadol; a bu fyw i weled y rhan fwyaf o'i brophwydoliaethau wedi eu cwblhau. Ymes- gusodai yn erbyn ymgymeryd â'r swydd bwysig ar gyfrif ei oedran a'i an- fedrusrwydd—"O Arglwydd Dduw, wele, nifedraf ymadrodd, canys bachgen ydwyf fi." Yn gyfFelyb yr ymesgusodai Moses pan y gosodai yr Arglwydd arno ifyned at Pharaoh; Gedeon pan y ceisiai yr Arglwydd ganddo fyned yn erbyn y Midianiaid; ac y mae yn deilwng o'n sylw, mai y dynion mae yr Arglwydd yn eu galw at ei waith yw y rhai sydd yn gweled eu hunain anghymhwysaf i'r gwaith. Felly y teimlai Jeremiah, er fod yr Arglwydd wedi ei fwriadu i'r gwaith cyn ei lunio yn y groth, ac wedi ei neillduo iddo cyn ei ddyfod allan o'r groth; ac y mae yn ei wroli, " Na ddywed, Bachgen ydwyf: canys ti a âi at y rhai oll y'th anfonwyf, a'r hyn oll a orchymynwyf i ti a ddywedi. Nac ofna rhag eu hwynebau hwynt: canys yr ydwyf fi gyda thi i'th waredu, medd yr Arglwydd." Yr oedd presenoldeb amddiffynol Duw dros ei weision y pryd hyny, oblegid yr oeddynt yn cael eu hanfon " fel ŵyn i fysg bleidd- iaid." Gweddîai Paul am gael ei "wai-edu oddiwrth y rhai anufudd yn Jerusalem, ar ei wared oddiwrth y rhai anhywaith a drygionus." A sicrha- wyd amddiffyniad dwyfol drosto yn Corinth pan yr anfonwyd ef yno : "Nac ofna, eithr llefara ac na thaw; canys yr wyf fi gyda thi, ac ni esyd neb arnat i wneuthur niwaid i ti; o herwydd y mae i mi bobl lawer yn y ddinas hon." Mae pob dyn yn anfarwol nes gwneud ei waith. Nid yw yr amddiffyn- iad yma rhag ymosodiadau gelynion yn angenrheidiol yn awr, oblegid " ein llinynoedd a syrthiodd i ni mewn lleoedd hyfryd, y mae i ni etifeddiaeth deg;" ond y mae amddiffyniad grasol Duw dros, a'i bresenoldeb gyda'i bobl. Yr oedd swydd prophwyd yn yr Eglwys Iuddewig, a swydd gweinidog yn yr Eglwys Gristionogol, yn dwyn llawer iawn o debygolrwydd. Y mae yr Chwbfrob, 1866. d