Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD gyda'r hwn y mae "yr annibynwr" wedi ei uno. CYFEILLACH FUDDIOL.* " Ond y cyfryw un ag a fyddo da i adeiladu yn fuddioL" Eph. iv. 29. " Bydded eich ymadrodd bob amser yn rasol, wedi eì dyniheru â halen," Col. ìt. 6. Y mae dyn yn berchen y gallu i siarad, yr hyn na fedd y creaduriaid eraill sydd islaw iddo, ac o'i gylch yn y byd. Y niae ganddynt eu seiniau yn arwydd- ion o rybuddion a bygythion, o ofnau a llawenydd; ond nis gellir galw yr ychydig seiniau hyn yn iaith: nis gallant gyfeillachu â'u gilydd fel y gall dynion. Y mae hwn yn allu gwerthfawr a chysurus hollol. Pafainta wna cyfeillach ychwanegu at ein dedwyddwch? Beth pe byddem oll yn fudion heb allu cyfeillachu dim] Pwy allai draethu trueni ein mudanrwydd! Ond camddefnyddir y gallu hwn, fel llawer eraill o ddoniau da Duw, a mynych y siaredir pethau diwerth a gweigion, pethau llygredig a niweidiol. * Traddodwyd cynnwysiad y sylwadau hyn ar brydnawn dydd Llun, Gorph. 31, 1865, yn Penygroes, ar làn bedd y diweddar Barch. Caleb Morris, gynt o Fetter Lane, Llundain. Yr ocdd Mr. Morris yn un o'r cyfeillachwyr goreu yn ein gwlad. Adnabu yr ysgrifenydd ef gyntaf tua 43 mlynedd yn ol, pan yn pregethu ar foreu Sabbath yn yr haf yn y Neuaddlwyd, oddiar 2 Cor. iv. 6. Yr oedd y pryd hwnw yn fyfyriwr yn Nghaerfyrddin, ar fin, os nid wedi treulio ei amser allan yn yr Athrofa, ac yn ddyn ieuanc hawddgar iawn yr olwg arno. Nid amcan y llinellau yma yw cymeryd golwg fywgraffyddol o Mr. M., nac o'i alluoedd a'i gymhwysderau fel pregethwr. Mae yn debyg fod cyfrolau o'i bregethau ar gadw, wedi eu hysgrifenu yn y lle cyntaf mewn llaw fèr, pan draddodid hwynt, a'u hysgrifenu allan yn y dull cyffredin pan y ceid hamdden. Paham na chyhoeddid talfyriad neu ddetholiad o honynt yn Gymraeg neu yn Saesoneg? Trueni iddynt gael eu gadael ar bapyr, heb gyfle i ymosod etto fel cynt ar feddwl dyn camsyniol a phechadurus. Yn y sylwadau hyn cymerir achlysur, ar bwys ei allu a'i arferiad efi siarad yn adeiladol, i ddywedyd gair am gyfeillach fuddiol. Yr oedd Mr. M. yn gyfeillachwr godidog. Bu yr ysgrifenydd yn nghwmni llawer o wŷr cyhoeddus, yn Gymry a Saeson, ar droion, yn gystal ag eraill ag nad oeddynt gyhoeddus, ond yn goethedig a deallus. Ond ni du yn nghwmni neb un amser ag a feddai y fath allu a dawn i siarad yn fuddiol a dyddorol a Mr. M. Yr oedd ganddo dalent naturiol at siarad yn dda. Ond nid naturiol yn unig oedd, yr oedd hefyd yn goethedig iawn, nes yr oedd yn anmhosibl bod yn ei gyfeillach heb dderbyn "adeiladaeth fuddiol." Ad- waenwn hen weinidog unwaith yn Nghymru, cyfeillach yr hwn yn wastadol oedd yn dra buddiol mewn cysylltiad à duwinyddiaeth a phrofiad crefyddol. Ond yr oedd gan Mr. M. faesydd eraill, amryw ac eang a phrydferth iawn, i arwain ei gwmni drostynt, heblaw duwinyddiaeth, a phrofìad, a materion eglwysig. Byddai yn gartrefol yn ngweithrediadau meddwl dyn, yn dra chyfarwydd yn philosophi y byd naturiol, ac yn esboniwr goleuedig a hyrwydd yn y Testament Newydd. Yr oedd hefyd yn hollol gyfarwydd â dadleuon y dydd, pa un bynag ai ar philosophi, neu dduwinyddiaeth, neu wleidyddiaeth y byddent. Ar y testunau hyn byddai ganddo lawer iawn i'w ddywedýd, nid ar antur, ond yn oleu ac adeiladol. Y mae i ni golled fawr ar ei ol, a hiraeth mawr o'i golli. Er hyny, bydded ein ffydd yn Nuw; gall efe etto godi siaradwyr a phregeth- wyr teilwng o hono ei hun, i fod yn fendith i ddynolryw yn dymmorol a bythol. Boed i ni ras i ddilyn y gwŷr rhagorol sydd wedi blaenu arnom, a chymhwyser ni i dd'od i'w cwmni, 11« y bydd yr holl gyfeillach yn santaidd, hyfryd, a diddarfod. Ionawr 1, 1866. A