Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYSGEDYDD CREFYDDOIi, &c Rhif. 107.] TACHWEDD, 1830. [Cyf. IX. COFIANT BYR AM HEN FICAR PARCHEDIG LLANYMDDYFRI. Ganwyd Rees Prichard, Awdwr u Canẁyll y Cymry," yn Llanym- ddyfri, o gylch y iflwyddỳn 1575, yn amser teyrhasiad y Frenhines EUza- betli. Wedi derbyn llawer o addysg- iadau mewri ysgoi gartrefo), anfonwyd ef i Rydychen pan o gylch deunaw oed. Yn Ebrill, 1C02, urddwyd ef yn offeiriad; a graddwyd ef yn Ddysgybl yn y Celfyddydau yn y Mehefin cahlynol. Cyn diwedd y llwyddyn honno gwnaed ef yn Ficar Llanymddyfri; ac yn 1012, ar arch y Brenin Iago y Cyntaf, codwyd efi Berigloriaetli Llanedi. Ogylchyrnn pryd dewisiwyd ef yn Gapelwr i IarlJ Essex, ac yn un o Gòr-beriglorion Eglwys Golegawl Aherhonddii. Yn 1G2G, neilldiiwyd ef—gan y Dr. Land!!! —i fod yn Ganghellydd Esgobaeth Tyddewi, a graddwyd ef hefyd yn Athiawyn y Celfyddydau. Ymddengys ei fod, pan sefydlodd gyntafýn Llanymddyfri, yn ymddifad o grefydd brofiadol, ac felly yn llwyr anghymwys i gyflawni dyledswyddau pwysig ci swydd oruchel. Dywedir fod ysgafnder yn dynodi ei ymddyg- iad, a'i fod yn mynych ymollwng i yfed. Cafodd ei argyhoeddi trwy foddion tra nodedig.—Yr oeddganddo ufr a fawr hoffai. Denwyd honno unwaith gan ryw ynfydion i dafarndý, a rhoddwyd cwrw iddi nes ei meddwi. Ond wedi ymiachai, dysgodd yr afr ddoethincb oddiwrth hyn ; a dangos- odd ci bod yn i'wy synhwyrol a theiml- adwy na llawer meddwyn deudroed: oblegid nis gallwyd ei denu byth mwy i dafarndý, na'i thwyllo byth ar ol hyny i yféd cwrw, Effeithiodd hyn mor ddwys ar feddwl ei pherchen nes peri iddo lwyr ffieiddio meddwdod ; a bu yri foddion, dan fendith y Nef, i weithio ynddo hollol gyfnewidiad. O hyny allan, ymosododd gyda'r difrifol- deb mwyaf ar ddyledswyddau pwysig ei weinîdoiraeth ; ymdrechodd sefydlu sylw ei gydwladwyr ar athrawiaethau gogoneddus efengyl gras, a defnydd- iodd gyda doethineb a diwydrwydd nodedig bob moddion yn ei allu er eu haunog i edifarhau am bechod ac i gofleidio gwir grefydd. Fel pregethwr yr oedd Mr. P. yn llawn o zel ac yn hynod boblogaidd. Ni rusai dafhi o'r neilldu yn achlysurol ddefodau caethiwus Eglwys Loegr, os gallai trwy hyny fod yn fwyderbyniol. Cymaint oedd ei boblogrwydd, oblegid melysder ei ddawn, deniadau eiddnll, a difrifoldeb ei wedd, fel nad allai corph eang Llan cadeiriawl Týddewi gynnal y torfeydd a'i gwrandawent. Un- waith am bregetbu yn mynwent yr eglwys honno, rhoildwyd cŵyn yn ei erbyn yn y Llys Ysbrydol!!! Ond er ei wawdio a'i eriid, mynych y pregeth- ai gyda'r ffyddlondeb gwrolaf, yn y maes neu ar y mynydd mewn dull gwir apostolaidd. Ar brydiau, er ynill sylw ei wran- dawyr a chynnorthwyo eu cof, arferai ysgrifenn sylwedd ei bregethau ar gân, a rhoddai adysgrifau o'r gân i'r neb a chwennychent ei dysgu i'w hadrodd yn gyhoeddus; a thrwy hyji denwyd Hawer, wrth glywed y gân, i wrando ac ystyried y weddi a'r brcg- eth. a S