Skip to main content

DYSGEDYDD CREFYDDOL, &c. Rhif. 103.] GORPHENHAF, 1830. [Cyf. IX. HANES BYWYD A MERTHYRDOD Y PARCH. GEORGE WISHART. Yn mysg y rhai a ferthyrwyd yn Scotland yn moreu y diwygiad y niae George Wishart yn nodedig. Ganwyd ef yn Scotland yn ngìiylch y flwyddyn 1519, ond yn Mhrifysgol Caergrawnt y bu ei feithriniad ysgolheigaidd. Yn nghylch y flwyddyn 1544, dychwelodd i Scotland i gyhoeddi yr efengyl i'w genedl ei hun, a bu am ryw ysbaid yn pregethu ac yn cadw ysgol yn Mon- trose. Yn fuan ymddangosodd yn bregethwr tra doniol, nerthol, a II wyddiannus, ac yr cedd yn hynod o ran ei addfwynder, ei ostyngeidd- rwydd, a'i dduwioldeb. O Montrose efe a symudodd i Dun- dee, ac yno ymgynhyifodd llid y Pab- yddion yn ei erbyn. Yr oedd yr erlidiwr creulon hwnw y Cardinal Heaton mewn rhwysg mawr, ac yn archesgob St. Andrews. Hwn wedi clywed am boblogrwydd Mr. Wishat t a ddefnyddiodd un Robert Milne i'w wrthwynebu a'i yru allan o Dundee. Pan oedd Wishai t yn diweddu ei bre- geth un diwrnod, y Robert Miluehwn a safodd yn gyhoedd i'w erbyn, gan roddi gorchymyn iddo yn enw y rhag- law na flinai efe hwynt â'i bregetliiad mwyach. I hyn atebodd Wishart, " Mae Duw yn dyst i mi, mai nid fy mwriad i oedd eich blino ond eich cysuro. Eto yr wyf yn sicr mai nid trwy wrthod gair Duw, ac ymlid ymaith ei gonhadon, y mae i chwi gael eich achub rhag blinder. Tan berygl am fy mywyd yr wyf wedi aros gyda chwi i bregethu i chwi air y bywyd. Ond yu awr jj«n eich bod chwi yn fy ngwrthod, y mae yn rhaid i mi eich gadael, gan adael fy matter i farn Duw." Oddiyno ciliodd Wishart i'r ochr orllewinol i'r wlad, Ile cafodd j dderbyniad gan laweroedd. Ond yno j cafodd ei wrthwynebu, yr. enwedig 1 gan archesgob Glasgow, yr hwn oedd | yn cael ei annog i hyn gan y Cardinal j Beaton. Attaliwyd ef i bregethu yn ! yr eglwys; yntau a ddyw7edodd y pregethai wrth groes y farchnad ; ac felly y bu, ac efe a bregethodd yno gyda'r fath rym a llwyddiant, fel ag yr argyhoeddwyd ac y dychwelwyd llawer ag oeddyut o'r blaen yu elynion i'r gwirionedd, Arhosodd Wishart yn y wlad houno, gan bregethu o fan i fan i luaws o wrandawyr am ryw ysbaid. Wedi addo pregethu yn Manchliu darfu i Sirydd Ayr y nos o'r blaen roi nifer o filwyr i'w gadw allan. Yr oedd yno lawer yn dra anfoddlon i'r sirydd am hyn, a mynent arfer grym i roi Wis- hart yny pulpud; ond ni oddefaiefe hyny,—"Frodyr," eb efe, "gair tangnefedd yr wyf yn ei bregethu ; na thywallter gwaed heddyw yn ei achos. Mae Iesu Grist mor alluog yn y maes- ydd aa; yn yr eglwys, ac efe ei huu a bregethodd yn fwy mynych yn y diffeithwch ac ar lan y môr nag yn y deml." Ar hyny aeth i'r maes, a lluaws mawr a'i canlynasanr, ac efe a bregethodd iddynt dros dair awr. Yr oedd nerth neillduol yn dilyn ei ymad- roddion, ac yn mysg amryw a ddy- chwelwyd at yr Arglwydd drwy y bregeth homio yr oedd Arglwydd 2 B