Skip to main content

Y DYSGEDYDD gyda'r iiwn y mab "yr annibynwr" wedi ei dno. MEDDYLIAU GWIBIOG. Y pethau boreuaf braidd y mae genym gof am danynt ydyw gweddîau yr ben batriarch Dal'ydd Owen, Ty'nycaeau. Mae ei lais soniarus, ei ddull difrifol, a'i ymadroddion tanllyd yn fyw yn ein meddwl hyd heddyw, er fod y gweddiwr <jr's llawer blwyJdyn yn mro dystawrwydd. Gallem dybied mai ei brif boenydwyr ysl>rydol oedd "meddyliau gwibiog;" achwynai lawer arnynt, ac eifyniai yn daer am gynnorthuy dwyfol i'w gwrthsefyll. Nid oedd genym ni y pryd hyny yr un ddirnadaeth beth a allasai y "medd- yliau gwibiog" hyn fod, ond tybiem fod yn rhaid eu bod yn dylwyth atgas dros l>en, ac yn berthynasau, o bosibl, i'r Pbilistiaid tost a fuont gyntyn blino Israel. Y gwir yw, yroidd arnom gryn dipyn o'u bofn, a mynych yr arsw.ydem rhag iddynt eiu goddiweddyd yii ddiamddirryn mewn rhyw fangre anghy'fannedd. Gwyddai ein brawd hynaf hyny yn dda, a chafodd ddifyr- wch neillduol lawer gwailh wedi nos wrth waeddi "meddyliau gwibiog;" oblegid nid cynt y gwnelai hyny nag y rhedem ninnau nerth ein traed mewn arswyd tuag adref. Tybiwn mai ar un o'r achlysuron hyn y cymerodd ein mam y drafFerth o roddi i ni ryw feddylddrych am wir natur "meddyliau gwibiog;" ond buom yn hir iawn er hyny heb allu meddwl am danynt heb ryw gymaint o ddychryn. Meddìjlìau gwibiog! Ai tybed nad oes gormod o drin wedi bcd arnynt? A ydynt hwy mewn gwirionedd yn ddychrynllyd o bechadurus? Ónid oedd yr hen bobl dda gyntyn coleddu gormod o ragfarn tuag atynt? Can- waith y gofynasom y cwestiynau hyn i ni ein hunain, a chanwaith y ceisias- om eu bateb, a chanw itb y teimlasom yn analluog i ddyfod i unrhyw benderfyniad. Mae un peth yn ^icr, sef fod yn well meddu ar "feddyliau gwibiog" na l>od heb feddyliau o gwbl. Truenus o beth yw gweled dyn yn ei gyflawn faintioli dan orfodogaeth i chwibanu o ddiffyg gallu i feddwl. Priodol y gall y cyfryw ddweyd wrth yr asyn, "Fy mrawd," a wrth y mochyn, "Fy nghydymaith;" oblegid nid yw y bywyd a arweinia fawr uwcldaw yr afresymolaf o afresymolion y ddaear. Gall yr haul gyfodi a macbludo bob dydd, gall y tymmorau fyned a dychwelyd bob blwyddyn, gall y ddaear ymlechu dan eira y gauaf, neu ymdrwsio yn ngwyrddlesni y gwanwyn, heb i'w enaid ef, druan, gael ei gynhyrfu gan ddiolchgarwcb, nac edmygedd, na syndod yn y byd. Ac yn y diwedd bydd farw fel anifail, heb erioed agoryd ei lygaid ar brydferthion y byd y bu yn byw ynddo. Heblaw hyn, onid gwibiog yw pob meddyliau i raddau mwy neu lai? A fuoch chwi erioed, wrth fyt'yrio, yn sylwi ar grwydriadaudilywodraeth eich myfyrdodau? Wedi dechrcu gydag un peth, arweinir chwi heb yn wybod at beth arall, ac oddiwrth hwnw at beth arall drachefn, a bychan wyddoch Bfiaofyr, 1865. 2 m