Skip to main content

Y DYSGEDYDD: orDl'R HWN T MAB "YR ANNIBYNWR " WEDI EI UNO. EDIFEIEWCH EFEtfGYLAIDD, GAN D. M. D. Nid oes un gyfundraeth o grefydd, ag sydd yn cydnabod dyn yn bechadur, nad yw yn cyfrif edifeirwch yn un o'i hathrawiaethau blaenaf a phwysicaf. Credir bod edifeirwch yn angenrheidiol, i raddau niwy neu lai, hyd yn nod gan anff'yddwyr, o Arglwydd Herbert, y cyntaf a'r goreu o honynt yn ein gwlad, i lawr hyd ein dyddiau ni. Mae y dosbarth hwnw o grefyddwyr sydd yn gwadu ymgnawdoliad y Bod dwyfol, yn anghredu effeithiolrwydd iawnol marwolaeth y Cyfryngwr, ac yn ddiystyr o ddylanwadau yr Ysbryd Glan, yn gosod pwys mawr ar edifeirwch. Saif yr athrawiaeth hon yn amlwg yn mhlith athrawiaethau crefyddol Dr. Priestley a'r Sosiniaid yn ddieithriad, o'i amseroedd ef hyd yn bresenol. Dyma yr athrawiaeth a flaenorai yn ngweinidogaeth Ioan Fedyddiwr; yr hwn addywedaî, "Edifar- hewch: canys nesaodd teyrnas nefoedd." Dechreuodd Iesu Grist ei wein- idogaeth gyhoeddus trwy argymhell edifeirwch fel un o ammodau anhebgorol iechydwriaeth ei wrandawyr—"O'r pryd hwnw y dechreuodd yr Iesu breg- ethu, a dywedyd, Edifarhewch: canys nesaodd teyrnas nefoedd." Y cynghor cyntaf a roddwyd gan Pedr i'r tair mil a ddwysbigwyd o dan ei bregeth ar ddydd y Pentecost oedd, "Edifarhewch." Tystiolaethai Paul "i'r Iuddewon ac i'r Groegiaid hefyd, yr edifeirwch sydd tuag at Dduw;" a chyhoeddai "yn nghanoi Areopagus," fod "Duw yr awrhon yn gor- chymyn i bob dyn yn mhob man edifarhau." Gan yr ymddengy9 edifeir- wch yn ngweinidogaeth Crist a'r apostolion fel un o ammodau hanfodol iachawdwriaeth pechadur, nid gorchwyl ofer, ond angenrheidiol, a fyddai i ninnau alw sylw y darllenydd at y mater yn yr ysgrif hon. Ni chaniàtà terfynau i ni ymhelaethu llawer ar edifeirwch yn awr; geill yr hwn a ewyllyBÌo gael golwg eangach ar yr athrawiaeth mewn ymholiad—yn ei natur—yr achos a'r angenrheidrwydd o edifeirwch—ei pherthynas â maddeuant yn y gyfundraeth Gristionogol—yn nghyda'i ffrwythau, &c, yn ngweithiau duwinyddol Wardlaw, Barnes, Magee, &c. Gwnawn rai sylwadàu yn bresenol ar edifeirwch mewn ffbrdd o atebion i'r gofynion canlynol:—Pa fodd mae pechadur yn edifarhsu? Pa berthynas sydd rhwng edifeirwch à maddeuant pechodau? Pa fodd yr ydys yn sicr fod yr edifeirwch proífesedig yn wirioneddol ac efengylaidd? Pafoddmae pechadur yn edifarhau? Wrth ateb y gofyniad yma, edrychwn ar edifeirwch fel gweithrediad meddyliol a brofwyd i raddau gan bawb, canys mae pob dyn yn brofiadol o ryw fath o edifeirwch—wedi profi gofid a phoeu meddyliol yn codi oddiar ymwybyddiaeth o gamweithredu, ac o ymddwyn yn feius, onide nis gallwn. roddi darnodiad dealladwy o Taohwbdd, 1865. 2 i