Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD GlfDA'R HWN Y MAE "YR ANNIBYNWR" WEDI EI DNO. ANERCHIAD I'R MYFYRWYE YN ATHEOFA Y BALA, MAWRTH 15, 1865, GAN T PARCH. R. THOMAS, BANGOR. Anwyl Frodyr—Ychydig o ddyddiau yn ol, wrth geÌ9Ìo roeddwl pa bethau fyddent yn fuddiol ac yn angenrheidiol i mi eu dwyn ger eich bron- au yn yr anerchiad hwn heddyw, daethum i deimlo fod y lle y gelwir fi i sefyll ynddo yn un dyeithr i mi, fy mod yn ymaflyd mewn gorchwyl nad oes ynof ond ychydig o gymhwysder i'w gyflawni yn briodol, ac y buasai yn well i mi lwyr ymwrthod âg ef, fel y gallasai rhywun arall cymhwys i'r gwaith ei gymeryd mewn llaw. Ond y gwir yw, yr oedd wedi myned yn rhy ddiweddar cyn i mi ystyried y pethau hyn yn ddifrifol, fel nad oedd amser wedi ei adael mwyacb i alw neb arall i draddodi anerchiad i chwi yn yr arholiad presenol; gan hyny, nid oes genyf yn awr ond gwneud y goreu o'rgwaethaf, a rhoddi i chwi ychydig o syniadau un na chafodd ddim man- teision athrofaol, na dysgeidiaeth o fath yn y byd, oddieithr dysgeidiaeth yr aelwyd, yr Ysgoi Sabbathol, a gweinidogaeth yr efengyl, yn nghyda'r ychydig a allodd efe gyrhaeddyd drwy ymdrechion personol; ac un a aeth i'r weinidogaeth yn union syth oddiwrth ei gelfyddyd. Gallai ambell un farnu fod rhyfyg mewn myned i'r weinidogaeth felly; ond yr wyf fi heb fy argyhoeddi etto fod ynddo ryfyg yn y byd pan y bo unol lais cynnulleidfa yn galw ar ddyn i wneud hyny, ac yntau yn teimlo mai ei ddyledswydd yw ymgyflwyno i waith y cysegr. Gallai hefyd y deillia peth mantais i chwi- thau oddiwrth olygiadau un na chafodd ddim o'r manteision a fwynheir genych chwi; ond a fu, er hyny, yn sylwedydd ar athrofáwyr yn gystal ag eraill, dros gryn nifer o flynyddoedd bellach. Mae gan un na chafodd fanteision athrofaol gyfle i sylwi ar y colegau o safle neillduol a pherthynol iddo ei hun; ac yn enwedig y mae gan weinidog yr efengyl yn y fath sefyllfa fantais i wneud ei sylwadau arnynt. Yr wyf fi yn golygu, a gwn fod llawer eraill na chawsant y fantais o ddysgeidiaeth athrofaol mwy na minnau yn cydolygu â mi, fod athrofaau yn sefydliadau ardderchog, ac yn hen sefydliadau oeddynt yn bodoli dan oruchwyliaeth Moses mewn cysylltiad âg achos crefydd, yn gystal a than oruchwyliaeth y Testament Newydd—eu bod yn angenrheidiol er cymhwyso dynion ieuainc i waith y weinidogaeth fel rheol gyffredin—ac mai colled íawr, ac anfantais mewn llawer o ystyriaethau, ydyw i weinidog orfod bod yn amddifad o'r manteision a geir ynddynt. Na feddylied neb ein bod ni, y rhai na chawsom addysg golegawl, yn dibrisio y sefydliadau hyn, nac yn meddwl eu bod yn ddiangenrhaid. Na, o'r ochr arall, y ydym yn eu HrmiEF, 1865. 2 p