Skip to main content

Y DYSGEDYDD GYDa'ü hwn y mae "yr annibynwr" wedi ei uno. HARRIES, MORFA. Mae sir Fynwy wcdi hynodi ei hun, oddiar oesau boreuaf Cristionogaeth, fel magwrfa dynion a enwogasant eu hunain, trwy fod yn ffyddlon i'r gwir- ionedd, megys ag y mae yn yr Iesu, a gwrtbwynebu pob ymyraeth di- wahoddiad â'u hiawnderau crefyddol, o ba gyfeiriad bynag y deuai. Caf- wyd rhai o honynt ar y maes yn erbyn creulonderau erledigaethus Rhufain Baganaidd; gwelwyd amryw o wýr Mynwy drachefn yn mysg y ffyddlon- iaid a ddaethanl allan yn erbyn twyll-ymhòniadau Rhufain Babaidd; a chanfyddwyd nifer o feibion Gwent, yn flaenllaw, yn dyrchafu eu llais yn erbyn llygredigaethau swyddogion gwladol ac eglwysig ein gwlad, yn yr oesoedd diweddaraf, yn ymryddhau o afaelion y gallu offeiriadol, trwy sef- ydlu cymdeithasau crcfyddol, ar yr un cynllun syml a dirodres a'r eglwysi apostolaidd. Gellir yn rhwydd brofî y gosodiadau hyn, trwy alw sylw y darllenydd at ychydig o ffeithian hanesyddol. Pwy nad yw wedi darllen neu glywed am ddeg erledigaeth yr ymerawdwyr Rhufeinig, yn erbyn y Cristionogion. Ni chyrhaeddodd un o'r naw erledigaeth gyntaf yr ynys hon. Ymledaenodd y ddegfod, tua diwedd y trydydd canrif, o dan Dioclesian, i Brydain; merthyrwyd ugeiniau o Gristionogion Brutanaidd, ac yn eu plith cofnodir enwau dau o ffyddloniaid Mynwy, sef Aaron a Julius, hen- uriaid yn Nghaerlleon ar Wysg. Yn y flwyddyn 607 o. c, yr ydym yn gweled yr esgohion a'r eglwysi Cymreig, yn cael eu harwain a'u cyfarwyddo gan eu hybarch archesgob o Oaerlteonar Wysg, yn sefyll yn wrol a llwydd- iannus dros eu hannibyniaeth eglwysig, a'u hawliau ysgrytbyrol, yn erbyn ymgais Awstin Fynach, cenadwryPab, i'w darostwng odan awdurdod pen yr eglwys Babaidd, a'u gorfodi i'w gydnabod yntau yn archesgob arnynt. Gyda golwg ar eu gwrthwynebiad i gyfeiliornadau a ffieidd-dra y Babaeth, dywed hen gronicl Cymreig, ar gael yn Cambridge:—"Arolhyn, trwy offerynoliaeth Awstin, daeth y Saxoniaid yn Gristionogion, yn y fath fodd ag yr oedd Awstin wedi eu dysgu; ni wnelai y Brutaniaid fwyta nac yfed gyda, na'u cyfarch hwynt, oblegid iddynt lygru gwir grefydd Crist âg q/cr- goeledd, delwau, ac eulunaddoliaeth" Cofnodir y dystioíaeth hon gan Mr. Hearn, yn ei lyír ar y " Man of Sin" a chan Mr. Elliott ac eraill, yn eu sylwadau ar y "ddau dyst" yn llyfr y Dadguddiad, yn "prophwydo fil a deucanta thriugain o ddyddiau, wedi ymwisgo â sachlian." Mae yn gofus gan y darllenydd, yn ddiau, mai yn Mynwy y ffurfiwyd yr eglwys Ymneill- duedig Gymreig gyntaf, yn y flwyddyn 1639, gan William Wroth, yn cael ei gynnorthwyo gan Walter Caradoc, yn Llanfaches, ger Cas'gwent. Yr oedd y blaenafyn enedigol o gymydogaeth y Fenni: trowyd ef allan o fywiol- iaeth Llanfaches yn 1638, am iddo wrthod darllen y Llyfr Chwareuon; a gelwid ef "Aposlol Cymru." Cafodd yr olaf ei eni a'i fagu yn Trevela, Ebrill, 186S. m