Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD gyda'r hwn t mae "yr anmbynwr" ¥EDI ei uno. Y RHYWBETH Cymbrir yn ganiataol bod darllenwyr y Dysghdydd am y flwyddyn ddiweddaf yn dysgwyl, yn ol ei addewid yn Rliif. Tachwedd, i'r Rhÿwun ddwyn ei Rynbeth i ryw derfyniad bellach. Wel, hyny a wneir, cyflawnir addewid yr ysgrifënydd, a dysgwyliad y darllenydd, weithian; ond nid ar unwaith chwailh; canys y mae etto yn aros i'w trafod lawer o bethau an- hawdd eu traethu, fel y gofynir llawer o bwyll, a chryn dipyn o ofod i'w trin; o herwydd paham, erfynir hynuwsedd y darllenwyr oll i gydymddwyn yn ddyoddefgar â'r ysgrifenydd nes y gorpheno ei lith. Ni ddysgwylia y bydd y modd y terfynodd y ddadl yn mynwes y pech- adur yr olrheiniwyd ei hanes yn y pennodau blaenorol, yn unol â barn a theimlad, ac â dysgwyliadau pawb o'r darllenwyr; a phe y troisai allan fel arall, cawsai rhywrai siomedigaeth: ond nyni a allwn gytuno i anghytuno. Nid yr amcan ydoedd boddhau, nac anfoddhau, un blaid o gredowyr mwy na'r llall, yn mherthynas â'r pynciau a ddeuent dan sylw, a'r rhai a ddeuant etto; ae yn wir, nid yw'r ysgrifenydd lai na dirgel dybio na bydd iddo, fe allai, cyn y diwedd, ddwyn ambell i syniad allan na chytuna neb âg ef. Ad- rodda hanes gweithrediadau a phenderfyniadau ei feddwl ei hun, yn ei berthynas â'r athrawiaethau y cyfeirir atynt, heb beri achos na digter na dadl. Tra y llefara argyhoeddiad ei ddeall a'i farn bersonol am yr hyn a gredir yn ddiammheu ganddo ar y banau hyny o'r ffydd Gristionogol, ni fynai ar un cyfrif fod yn daeog a sarhaus, fel un a ewyllysiai eistedd yn nghadair anflíaeledigrwydd, i gyhoeddi deddf barn i eraill, na thraddodi dedfryd gon- demniol ar olygiadau pawb a wahaniaethant oddiwrtho ef. Ceidw bob sur- does felly allan o'i gelwrn hyd y gallo, megys y creda ef ddarfod iddo wneud hyd yma. Ni anghofia y ffaith y bu, a bod llaweroedd o wýr gallu- og, duwiol a da, yn barnu ac yn credu yn wahannl iddo ar yr erthyglau yr yrndrinia â hwynt; a'r un modd luoedd o gyfryw wýr yn cydolygu âg ef hefyd o ran y sylwedd. Ond nid oes a wnelo ef â'r narll na'r llall o honynt; ei unig bwynt ef ydyw mynegu ei raith yn annibynol ar bawb,fel un a dynai ei gred o'r hyn a ddywed ỳr ysgrythyr, yn ol fel y gallai efe ei deall, ac yr argyhoeddid ei feddwl a'i faru ef ei hun, yn wyneb ei thystiolaethàu hi, gan ystyried mài i'ẃ Arglwydd ei hun, ac nid i neb arall, y mae eíe a'i farn i sefyll neu sýrthiö, a phawb arall yr un modd. Ofna ŷ bÿdd ei ẃaith yn cyflawni ei ad<Iuned i ddarllenwyr y Dysghu- ydd am y'IIyhedd, yn annyddorol i rai miloeild o'i ddarllenwyr eleni, gan eu bod yn dyfod i mewn megys ar ganol y stori, ac anhawddydywgẃneud Mawrth, 1865. k