Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ŵetljiàw. AWDWR CYFAILL PECHADTJR. GAN EI FAB, Y PAECH. NEWMAN HALL. CYNNWTSIAD. Gwrthddrych yr hanes yn datguddio ei hun—Y cyfarwyddyd (çre8CTÌption)—Penderfyniady ddau fab uwch ei ben ar ol marwolaeth cu tad—Ei fuddugoliaeth ar ei hen elyn—Yr achos dirwestol—Y gwallgofrwydd—Urddasolrwydd a haelioni ei gymeriad—Y gwendid— Yr ystafeü ddirgel—Myfyrio yr ysyrythyrau—Y dyfyniadau—Y sel—Y duwioldeb per- sonol—Diwydrwydd yn y moddion—Cyfaill Pechadur, ei ledaeniad anhygoel, a'i effeithiau rhyfeddol—Effaith y bywyd santaidd. Geill yr hanes ag yr ydwyf yn awr wedi ei adrodd ymddangos i lawer fei ffng. Chwedl wedi ei gwneud er mwyn crëu teimlad. Ond y mae pob gair o hono yn wirionedd. Ac i Dduw y bo'r clod, y mae y dyn a wared- wyd mor wyrthiol yn awr yn hollol iach, ac yn wasanaethwr yr Arglwydd Iesu Grist. Ac y mae efe, yr hwn a achubwyd fel pentewyn o'r tân, ac a waredwyd oddiwrth awdurdod y diafol, yn awr yn sefyll o'ch blaen, ac o'i enau ef ei hun yr ydych wedi clywed am ddaioni y Duw hwnw ag y mae ei drugaredd yn parhau yn dragywydd. Yn gymaint a bod appèliadau mynych wedi eu gwneud am y feddygin- iaeth y cyfeiriwyd ati, yr ydys yma yn ei dodi i lawr fel y feddyginiaeth, drwy fendith Duw, ag y mae y gwellâd vvedi ei ddwyn oddiamgylch. Sulphate of Iron ........................ 5 grains. Magnesia................................... 10 „ Peppermint Water....................... 11 drachms. Spirit of Nutmeg....................... 1 „ Hyn i wneud i fyny un dogn, a dau ddogn i'w gymeryd yn dydd. Mewn blwch perthynol iddo a agorwyd ar ol ei farwolaeth, fe gafwyd sypyn bychan, ar yr hwn yr oedd yn ysgrifenedig, " Trugaredd annhraethadwy Duw i J. V. H." Yr oedd yn cynuwys costrel fochan, yn yr hon yr oedd ychydig o waddod, a newyddiadur, yn yr hwn yr ydoedd yr araeth ag yr ydys wedi ei dyfynu, yn nghyda'r ysgriten ganlynol:—" Y gostrel hon sydd un o drichant allan o ba rai yr yfodd J. V. H. barotoad o ddur (prepara- tion of steel), yn y flwyddyn 1816. Cedwir y gostrel hon fel y crochan manna, i ddangos y tTordd drwy yr hon y gwelodd yr Arglwydd yn dda i waredu ei was o'r anialwch, allan o'r pydew erchyll, ac oddiwrth y pechod parod i'w amgylchu. Bendigedig fyddo yr Arglwydd. Efe a barhaodd i gymeryd y feddyginiaeth hon o'r eilfed o Fawrtb, 1816, hyd ddiwedd y Medi canlynol, sef yn nghylch saith mis. Ac o Medi 19, 1816, hyd Tach- wedd 22, 1836, (sef y diwrnod y gwnaed y nodiad), nid aeth dyferyn o win na gwirod i lawr genau J. V. H.: ac am y deunaw mlynedd diweddaf, nid aeth dim cryfach na thea, coffi, neu laeth i'w gylla. O! na foliannai dyn- ion yr Arglwydd am ei ddaioni! J. V. H." TÁCaWBOP, 1864. 3 a