Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ŵfltfjjẁra. MYFYRDOD DUWIOL. NíD un ddyledswydd ydyw crefydd, ond cynnwysa lawer. Nid un fraînt ydyw crefydd, ond cynnwysa lawer. Dylai pob Cristion yradrechu adna- bod ei ddyledswyddau, fel y gallo eu cyflawni; ac ymdrechu adnabod ei freintiau, fel y gallo eu mwyuhau. Gydag edifarhau, a chredu, a gwylio, a gweddio, rhaid iddo hefyd fyfyrio. Beth ydyw myfyrdod? Rhaid deall hyn yn gywir cyn y gallom symud cara yn mlaen: ac er mwyn hyny, syíwer ar yr hyn a ganlyn. Y mae gwahaniaeth mawr rhwng myfyrio a gwrando. Y mae gwahan- iaeth mawr hefyd rhyngddo a darllen. Wrth wrando, yr ydym, yn oddefol, yn derbynargraff oddiwrth yr hyn aleferir; ac wrth ddarllen, yr ydym, yn oddefol, yn derbyn argraffoddiwrth yr hyn a ysgrifenwyd. Y mae gwahaniaeth mawr rhwng myfyrio ae ysgrifenu. Y mae gwa- haniaeth mawr hefyd rhyngddo a ilefaru. Wrth ysgrifenu, yr ydym, yn weithredol, yn crëu argraff ar y neb sydd yn darllen; ac wrth lefaru, yr ydym, yn weithredol, yn crëu argraff ar y neb sydd yn gwrando. Y mae myfyrdod yn cynnwys y ddau beth: y mae yn oddefol ac yn- weithredol. Yr ydym yn weithredol pan yn gosod y meddwl ar y gwrth- ddrych; ond yn oddefol pan yn derbyn argraff oddiwrth y gwrthddrycb. Y mae genym ddewisiad o wrthddrychau myfyrdod, ond nid oes dewisiad genym o'r argraff a wnant ar ein calon a'n cymeriad. Gesyd pob gwrth- ddrych argraff arnora briodol i'w ansawdd, yn annibynol ar ein dewisiad. Os ar y nef y bydd ein myfyrdod, y mae yr argraff yn rhwym o fod yn nefol. Ni ellir attal hyn. Os ar y ddaear y bydd ein myfyrdod, y mae yr argraff yn rhwyra o fod yn ddaearol. Ni ellir gochel y canlyniad. Y mae myfyrdod daearol yn gwneuthur y cymeriad o ddyn daearol: y mae myfyr- dod nefol yn gwneuthur y cymeriad o ddyn nefol. Y mae myfyrdod yn weithrediad rheolaidd a gwastadol y meddwl. Agwedd lywodraethol y meddwl ydyw, ac nid peth yn dygwydd ar amserau ansefydlog. Nid cynhyrfiad am dymmor, nid cyffroad am enyd ydyw. Nid y w arferiad y meddwl yn ddamweiniol ac achlysurol yn deilwng o gael ei alw yn fyfÿrdod; ac nid yw y cyfryw yn gymhwys i gael eu rhesu yn mhlith dynion myfyrgar. Gweithrediad parhaol y meddwl ydy w myfyrdod. O holl greaduriaid y ddaear, dyn yn unig syddalluog i fyfyrio. Dengys hyn ei urddas a'i gyfrifoldeb: gesyd fri arno fel y creadur uchaf a rhagoraf. Gall aaolygu, a dysgu oddiwrth amgylchiadau wedi bod: gail ra^olygu, a darparu at amgylcbiadau etto i fod. Pa ANHAWSDER SYDD I FYFYRIO? Y mae llawer iawn o ddynion yn ymdaith trwy'r byd yn berffaith ddify- fyr, ac yn dybenueu hymdaith heb weled, na gwybod, na theimlo nemawr mwy na'r anifail. Dengys hyn fod rhwystrau o ryw fath ar y ffordd, apha fath ydynt sydd deilwng o fod yn destun ymchwil. Y mae anhawsder yn natur y ddyledswydd ei hun. Ceir y corff, yn neillduol ar brydiau, yn hynod anhawdd ei ystwytho at waith j ond llawer IIydref, 1864. 2 z