Skip to main content

#WÍJ]lẀfltL Y GRWGNACHWYR. PüN. II.—Y GttWGNACHW& DvSGVBLAETHOL. Gwr sobr-ddifrifol iawn yr olwg arno ydyw y brawd bwn bob amser. Nt welwyd un Pharisead erioed ar ddydd ei ympryd yn gwisgo wynebpryd mwy pruddglwyfus na'r eiddo ef, yn enwedig yn moddion gras, ac yn neill- duol yn y cyfarfodydd eglwysig. Y mae holl faich y gofal am ddysgybl- aeth yr eglwys, fe debygid, yn gorphwys yn hollol ar ei ysgwyddau ef, ac y mae yn gwasgu yn drwra iawn ar ei galon, nes peri iddo duchan acochen- eidio yn llwythog o dano. Pan gyfodo ar ei draed i siarad yn yr eglwys, gwyr pawb beth sydd i ddyfod allan—darlith ar ddysgyblaeth, bid 6Ìcr, a'r un ddarlith fydd lii bob tro. Y ddysgyblaeth wedi ntyned dan draed— nid oes byth air 0 son am danil—y clawdd terfyn rhwng y byd ar eglwys wedi ei dòri i lawrl—pob drwg yn cael ei oddefa'i lochesu, fyc.y a rhes o ocheneidiau trymion rhwng pob brawddeg. Bydd yn ddrwg iawn ganddo efddywedyd pethau fel hyn, ond ni all ei gydwybod oddef iddo fod yn ddystaw. Byddai yn well o lawer ganddo pe buasai rhyw frawd arall yn crybwyll y mater; ond gan na theimlai neb ar ei galon wneud, teimlai ef dan rwymau i wneud ei hunan, er mwyn gogoniant yr achos. Yr oedd grwgnachwr nodedig o'r tylwyth hwn, dro yn ol, yn aelod o'r Eglwys Anuibynol yn-------, ond ni waeth heb ddywedyd pa le, o'renw------, ond ni waeth i ni heb roddi ei enw bedydd, canys am a wyddom ni, y mae y gwr etto yn fyw, ac ni byddai ei riodi allan yn bersonol o un Ues iddo ef nac i neb arall; ond, pa fodd hynag, er rnwyn cyfleusdra, ni a'i galwn Wmffre'r dysgyblwr. Cafodd Winffre ei oddef am hir amser i draethu ac ocheneidio ei gŵynion yn yr eglwys y perthynai iddi, heb i neb gymeryd sylw neillduol o hono, er fod pawb yn bur íiin o'i blegid. Gofynodd y gweinidog iddo o'r diwedd beth oedd ganddo mewn golwg? os oedd yn gwybod am ryw achos neu achosion neillduol oedd yn galw ara ddysgybl- aeth, mai ei le oedd dwyn y cyfryw achos neu achosion o flaen yr eglwys, ac nid dwyn cyhuddiadau penagored felly yn erbyn y gymdeithas yn barhaus, a gwasgodd arno i wneud hyny y pryd hwnw. Dechreuodd yntau rwbio ei lechwedd ar hyn. "Chwi a wyddoch o'r goreu cystal ag y gwn innau," eb efe, "nad oes yma ddim son am ddysgyblaeth nadysgyblu neb er's misoedd, na blynyddoedd, am a wn i; nid wyf yn cofio pa bryd y tòr- wyd neb allan o'r eglwys hon, pan y dylasai ei hanner hi fod wedi eu tòri allan er'a talm." "Wel, nodwch y personau, a nodwch y beiau," ebe'r gweinidog. "O, nid fy ngwaith i, ond eich gwaith chwi a'r swyddogion ydyw hyny," atebai Wmftre. " Eich gwaith chwi, mae'n debyg, ydyw enllibio yr eglwys—ei chyhuddo a'i chablu yn barhaus, heb ddwyn un cyhuddiad yn erbyn neb yn bersonol," meddai'r gweinidog. " Ac yr wyf yn meddwl, os oes yma neb y dylid ei ddysgyblu a'i dòri allan, mai chwi yw hwnw." Wedi i'r argae gael unwaith ei hagor, rhedodd y lüfeiriant allan am ben Wmffre. Cernodiwyd ef yn drwm iawn gan hwn a'r llall; edliwid iddo mai gwaith ei fywyd oedd duo a gwaradwyddo'r eglwys yn mhob man ao wrth bawb, gan awgrymu cyhuddiadau yn erbyn hwn a'r Uali Mbdi, 1864. s s