Skip to main content

ẅnetjiaìiflti AWDWR CYFAILL PECHADUR, GAN EI FAB, Y PARCH. NEWMAN HALL. "Onid pentewyn yw hwn wedi eì achub o'r tân?" Ymddengys fod gwrthddrych y cofiant hwn wedi treulio y rhan gyntaf o'i oes mewn dirfawr afradlonedd ac annuwiaeth, f'el nas gallesid gosod allan y cyfnewidiad a gymerodd le yn ei fywyd trwy eiriau gwell na'r rhai sydd wedi eu gosod uwchben ÿr ysgrif. Y maent yn orlawn o arwyddocâd, ac yn dangos y drwg, a'r perygl, a'r waredigaeth, allan yn eu graddau eithaf. A lle bynag y ceir pechadur ag y gellir yn briodol eu cymhwyso at ei gyf- lwr, y mae yn eithaf teilwng o gael ei ystyried fel cofadail neillduol i ras. Ac y mae cofadail fel hyn o wasanaeth nid bychan, er attal yr eglwys i roddi dyn yn amlder ei ddymchweliadau i fyny iddo ei hun, a pheidio ei gymhell na'i gofio gerbron Duw mewn gweddi. Ac nid yn unig hyn, ond i attal yr adyn ei hun, yn yr ymwybodolrwydd o'i ddrwg, i suddo i'r teimlad ag y mae iddo yn fynych yn ddarostyngedig, o feddwl nad oes obaith iddo wedi ei adael, na neb yn ymofyn am ei enaid, ac ymollwng i'w bechod yn llwyrach nac erioed. Yr ydym yn credu yr atebir y dybenion hyn gan y bywgraffiad hwn, a dyna paham yr ydym yn ei gyfìëu ger bron darllenwyr y Dysqkdydd. Ceir crynodeb o fywyd ei wrthddrych wedi ei ddychweliad yn ei ddechreu, yn nghyda theimlad ei fab wrth ymgymeryd â'rgorchwyl o'i ysgrifenu. Y maey ddau ýn hollol naturiol, ac yn cymeryd eu lleyn esmwyth fel rhagymadrodd i'r banes. Nid yw fy adnabyddiaeth hersonol o awdwr Cyfaill Pechadur yn cyd- daro â'r roeddylddrych a osodir allan yn y geiriau a ddewiswyd fel arwydd- air. Yn ystod y deugain mlynedd ag sydd o fewri cylch fy nghof, nis gallaf gysylltu ei enw ond â pha bethau bynag sydd wir, â pha bethau bynag sydd onest, â pha bethau bynag sydd gyfiawn, â pha bethau bynag sydd bur, â phabethau bynag sydd hawddgar, ac â pha bethau bynag sydd ganmoladwy. Wrth ystyried mor anrbydeddus a hynaws ydoedd wrtli ymwneud â dynion, ac mor ddiwyd a defosiynol ydoedd wrth ymwneud â Duw, gallaswn ddewis fel testun y cymeriad a roddir i Zacharias, yr hwn ydoedd yn rhodio yn holl orchymynion a deddfau yr Arglwydd yn ddiar- gyhoedd. Wrth ystyried cynnydd ei dduwioldeb, a pha fodd yr âi rhugddo o flwyddyn i flwyddyn mewn nefolrwydd roeddwl, gan ddangos yn fwy cy8*on ac yn fwy eglur ddelw yr Arglwydd, gallaswn gymhwyso ato eiriau Solomon, " Llwybry cyfiawn syddfel y goleuni, yr hwn alewyrcha fwyfwy hyd ganol dydd." Wrth ystyried y tystiolaethau a dderbyniwyd yn ystod ei gystudd, am y lles ysbrydol y gwelodd Duw yn dda wneuthur drwy ofFerynoliaeth ei dafod a'i ysgrif'bin, gallaswn ddewis geiriau y Salmydd, "Ffrwythant etto yn eu henaint." Wrth ystyried y blynyddau lawer y bu fyw, a'r addfedrwydd cymeriad a gyrhaeddodd, a'r yrfa faith o ddefnydd- ioldeb a fwynhaodd, a'r parch a'r serch gyda pha un yr oedd yn cael ym- ddwyn tuag ato, galíesid ei ddarlunio drwy y geiriau, "Ti a ddeui mewn nenaint i'r bedd, fel y cyfyd yegafn oŷá yn ei amser." Ond witb ystyried AWST, 1364. 2 Ä