Skip to main content

Y EHYWBETH. Pbn. II. Amlyowyd dan y trydydd penawd, ar ddiwedd y bennod o'r blaen, y pen- derfyniad y daethai meddwl y pechadur ymofyngar iddo yn mherthynas i Iawn y Gwaredwr, ar ol hir ymddyrysu yn maglau ammheuon a phetrusder. Ceisiasai fyned yn rhydd ac annibynol, i edrych âg wyneb agored, yn wyneb tystiolaethau noethion yr ysgrythyr, ar y pwnc, gan ymddyosg, hyd y gallai, oddiwrth bob rhagfarnau blaenorol dros neu yn erbyn ei hen gredo, a chymeryd ei arwain yn ol fel yr argy hoeddid ei feddwl drwy y gyfraith a'r dystiolaeth. Gwyddai yn dda cyn hyny am dystiolaethau penodol y Test- ament Newydd ar y mater, ond nid oedd ei feddwl erioed wedi ceisio edrych arnynt oddiar y safle a gymerai yn awr; ac ymddangosent iddo fel yn gwisgo gwên newydd hollol. Gwelai a theimlai mai nid " â thafodiaith ddyeithr, a bloesgni gwefusau," y llefara'r ysgrythyr ar bwnc raawr iach- awdwriaeth dynion, ond yn groew, eglur, a phenderfynol:—Dros bawb,— dros bob dyn,—dros bechodau'r holl fyd, heb osod un nodiad rhwng crom- fachau, na gwneud un sylw ar ol yr ymadroddion, er cymedroli na chyf- yngu ystyr briodol a naturiol y geiriau, "fel y byddai ganddi hi îe, a nage;" gan hyny, credai ef yn awr raai yn yr ystyr hòno, ac nid ystyr arall, y mynai'r ysbrydoliaeth i bawb ddeall ei lleferydd,—ei bod yn meddwl ac yn golygu pob dyn, parub, yr holl fyd, fyc, yn yr ystyr a roddai synwyr cyffredin i'r geiriau, ac nid dim yn amgen. Meddyliai yn sicr ddilys mai mewn amryfusedd y darfuasai i wýr da o athrawon a deonglwyr geisio cyf- yngu ymysgaroedd y geiriau, er eu hystwytho at gredo nad allai ddygym- mod â'u hystyr briodol. Ónd, " Yr ysgrythyr nis gellir ei thòri," na'i hystwytho, na'i phlygu, na'i gwyro. Ëgyr "yr hwn y mae agoriad Dafydd " ganddo, fel hyn, ddrws iachawdwriaeth yn llydan agored ger bron faoll deulu dyn yn ddiwahaniaeth, "yr hwn nis dichon neb ei gau." Teimlai bellach ei fod wedi dyfod allan o dywyllwch ammheuon a phet- rusder i oleuni sicrwydd deall ar y gangen hon o athrawiaetb, a melus yn ddiau oedd y goleuni iddo. Yr oedd yn gweled bod y tystiolaethau am Iawn cyffredinol dros bechodau yr hollfyd yn sail gadarn ddiysgog, yn nerth ac awdurdod, a chysondeb i'r gorchymyn, i fyned allan i'r holí fyd, a phregethu'r efengyl i bob creadur, i alw ar "bob dyn yn rohob man" i edi- feirwch a ffydd;—yn sicrhau didwylledd ei gwahoddiadau, a'i haddewid o fywyd tragwyddol i bob un ac i bawb oll a ufuddhao i'r "Hwn a berffeith- iwyd yn Dy wysog iachawdwriaeth " dragwyddol trwy ddyoddefíadau, ac yn arddangos cyfiawnder ac uniondeb y gollfarn fygythiedig ar bob anufudd a gwrthodwr o fendithion cynnygiedig y drefn. Buasai y diffyg o gyflawni y pethau pwysig hyn, 'ie, ei wrthdarawiad iddynt oedd yn ei hen gredo mewn Iawn dros yr eglwys, a throsti hi yn unig; cyfrifiad o'i phechodau, a'i phechodau hi yn unig, ar Grist, yn peri anesmwythder blin i'w feddwí lawer gwaith. Ni allasai yn ei fyw weled nad oedd cynnygiadau yr efengyl o fywyd ac iachawdwriaeth i bawb yn anghyson â gwirionedd a didwylledd, os athrawiaeth Iawn y credo hwnw oedd athrawiaeth Iawn y Testament GOEl'HBNAT, 1864. 2H