Skip to main content

ŴrtójẁtL Y GRWGNACHWYE, Pen. I. Y mae yn anhawdd ymgadw rhag royned i yshryd grwgnachlyd wrth ym- wneud â'r genedlaeth hon—y grwgnachwyr. Beth a wneir i'r dynion hyn? Drain yn ystlysau cymdeithas ydynt erioed, ac a fyddant byth hyd nes y darfyddont o blith dynion. Yr oedd dosbarth lluosog iawn o honynt yn ngwersyll Israel yn yr anial- wch gynt. Grwgnach yr oeddynt hwy yn yr Aifft, a grwgnach oedd un o'r pethau cyntaf a wnaethant ar ol dyfod allan o'r Aifft;—grwgnacb yn eu caethiwed, a grwgnach wedi eu gwaredu, am na chawsent lonydd i aros yno. Canlynent ar ol y golofn yn yr anialwch dan rwgnach a thuchan bob cam. Grwgnach o eisieu dwfr, a grwgnach o eisieu cig; grwgnach yn erbyn Moses, yn erbyn Aaron, yn erbyn Duw, yn erbyn pawb, ac yn erbyn pob peth: nid oedd neb na dim wrth eu bodd. "A'r bobl fel tuchanwyr oedd flin yn nghlustiau yr Arglwydd." Y mae had yr hen genedlaeth hòno o rwgnachwyr yn lluosog yn y byd etto; ac y maent yn frychau a meflau, yn hytrach yn ddrain a mieri, yn ngwinllanoedd Sion yn fynych iawn. Cyffrodd yr hen rwgnachwyr Hebre- aidd gynt ysbryd y gwr Moses, y "llareiddiaf o'r holl ddynion oedd ar wyneb y ddaear," ambeìldro, fel y "camddywedodd â'i wefusau;" nid rhyfedd, gan hyny, ddarfod i'w hoíynwyr gyffroi llawer gwr llai ei ddoethineb a'i lareidd- dra na'r gwr Moses, aml waith ar ol hyny, fel y camddy wedai â'i wefusau. Gellid meddwl weitnnau fod y grwgnachwyr yn Sion wedi dyfod i gyd- ddealltwriaeth â'u gilydd i rânu y gwaith cydrhyngddynt, ei ddosbarthu i wahanol ganghenau, rhag i un ran o rwgnachyddiaeth gael ei esgeuìnso. Gofala un ara y weinidogaeth a'r cyfarfodydd,. arall am y ddysgyblaeth, arall am gariad brawdol, arall am y tlodion, &c. Cofus genym am ddau frawd tra gwahanol en hysbryd a'u tymher oedd- ynt yn gydaelodau yn yr un eglwys. Siôn Rwgnach y gelwid un, a Dafydd Ddiolchgar y gelwid y llall; eu henwau neu eu titlau eglwysig oedd y rhai yna. Un o'r diaconiaid a'u dododd arnynt i ddechreu, a rhoddodd yr holl eglwys eu sel arnynt, drwy eu defnyddio bob amser y sonid am y ddau frawd; aeth y peth i glustiau y byd oddiallan cyn hir, a chymeradwyodd yntau yr enwau; ac felly y gelwid y ddau gan fyd ac eglwys. Un diwyd, dichlynaidd, a chywir yn holl g'ylchoedd crefydd a bywyd ydoedd Dafydd. Ni byddai ei le ef byth yn wag yn moddion gras ac ordinhadau crefydd. Os dygwyddai iddo fod yn absenol ambell dro,. teimlid y golled am dano, a'r un esboniad a roddai pawb ar y mater, sef fod rhyw rwystr anorfod ar y ffordd yn attal Dafydd. Yr oedd Siôri yntau yn lled ddiachos achwyn arno o ran cadw ei gydgynnulliad, nid yn aml iawn y byddai yn absenol o'r bregeth, y cyfarfod gweddi, na'r gyfeillach grefyddol, fel nad oedd Dafydd yn rhagori llawer arno yn hyny o beth; ond yr oedd gwahaniaeth mawr iawn rhwng y naill a'r llall mewn pethau eraill. Deuai Dafydd i'r moddion, ac elai adref yr un modd, dan ganu a chanmol; a Siôn dan gwyno a thuchan. Mewn un gyfeillach, yn neillduol, tòrodd llewyrch gryraus ar Mai, 1864, X