Skip to main content

ŵrííjàttt. DE, L EWI S. Arddull gyffredin y Doctor o bregethu oedd gymysg o'r athrawiaethol a'r ymarferol yn nghyd, yr hwn ddull sydd yn cyfateb yn hollol i angen y sant a'r pechadur fel eu gilydd, ac yn agor y drws yn ddigon llydan i gymeryd i fewn holl gynghor Duw. Nidoedd ganddo un drychfeddwl am gyfansoddi pregeth, ac yna myned i chwilio am adnod, fel am hoel, i'r dyben i'w chrogi hi arni. Ond byddai raid iddo wrth ysgrythyr yn gyntaf, yn ol yr hon yr oedd yr holl adeilad i dderbyn ei ff'urf, ac i godi yn naturiol allan o honi. Anaml y byddai ganddo destun na byddai rhyw ran o athrawiaeth fawr gras ynddo yn cael ei chynnrychioli, ac anamlach na hyny y byddai ganddo heb gael y lle'goreu. Ystyriai hyn bob amser fel dyled arbenig i fonedd y Bibl, ac yn cyfateb yn well nac un dull arall i symledd dyrchafedig yr efengyl; a chariai ef allan yn y pulpud a'r wasg yn mron heb eithriad. Ond y mae hyn yn awr i raddau wedi cyfnewid, a'r dull a ystyrid un- waith mor gysegredig yn cael edrych arno wedi myned yn hen ac agos i ddiflanu, a'i ireidd-der, os bu erioed yn feddiannol arno, wedi ei droi yn sychder haf. Y mae chwaeth yr oes wedi cyfnewid; ac i'r dyben o gyfar- fod â hi, pa mor goeg a mympwyol bynag, y mae yn rhaid bod naill ai yn bert ai yn grach-atbronyddol, felna fyddis i un yn dramgwydd, nac i'r llall yn ffolineb. Ond y mae byn yn fwy nac y gall y wybodaeth am Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio, ei íforddio, cy'd ag y maeifod yn safon o syml- rwydd dyrchafedig yn mhlith dynion, a'i dylanwad Puritanaidd i wrthdystio ynerbyn pomp a rhodres, i fod o un gwerth. Ni oddef i wisg halogedig gyffwrdd â hi, yn gymaint ag y mae i fod fel merch y brenin, oll yn ogon- eddus o fewn, a gemwaith aur iddi yn wisg. Yr ydym yn hoffi gweled pertrwydd naturíol fel eiddo y diarhebion, ac athroniaeth bur feleiddo ydammegion, yn cael eu rhestru at ei gwasanaeth. Ond y mae coeg-bertrwydd ac athroniaeth yn ei hiselhau. Ac nid oes ond dynion o feddyliau bach a chwaeth isel a all eu defnyddio, na dynion ond o chwaeth isol eu mwynhau. Y mae yn gofyn i efengyl syml ac urddasol gael ei chyflwyno yn deilwng o uchder ei haniad a dwyfoldeb ei dyben. Ond y mae crach-bertrwydd ac atbroniaeth yn gwneud pregeth debycach i flwch snisin mursyn, nac i arch y dystiolaeth yn cynnwys y llechi a ysgrifenodd y deheulaw Mawredd â'i fys, ac ar yr hon y mae y presenoldeb dwyfol yn ílewyrchu rhwng y cerubiaid, i ddangos pa mor santaidd a neillduedig y mae i gael ei hystyried. Cyfeiliornad dychrynllyd yw tybio fodpregethuathrawiaethol yn bregethu difudd, ac nid oes ond y gwag-grefyddol, a'r doethyn cnawdol, a ellir eu cael i dystiolaethu yn ei erbyn. Onid yn nrych yr athrawiaetb.au y gwelir y sefyllfa, yn yr hon y saif Duw a phechadur, a phechadur a Duw, yn eu perthynas â'u gilydd? Ac onid dyma y cyfrwng penaf y mae Ysbryd y gwirionedd yn ei ddefnyddio i amlygu ei hun, er dangos i ddyn ei union- deb? Onid yr athrawiaeth fawr o gyfiawnhad trwy ffydd a weithiodd allan y Diwygind Protentanaidd, ac a greodd y ddaeargryn a siglodd orseddfainc y bwystíii drwy holl Ewrop? Ac onid yr un un, o enau Jonathan Edwards, Ebbiix, 1664. C