Skip to main content

ŵetliiẁûîL COFIANT DAVID DAVIES, Ybgoldt Bbütanaidd Deiniolen, a Diacon Eglwts Ebenezee, sib Gaertnarfon. Y mae gwahanol raddau yn mhlith dynion, ac y mae y graddau hyny yn dibynu ar amrywiol bethau. Gosodir un mewn gradd uchel o herwydd ei gysylltiad teuluol; dygwyddodd gael ei eni mewn palas, ac o rîeni cyf- oethog, yr hyn nad ydoedd yn unrhyw rinwedd ynddo ef, mwy nag yr ydoedd yn feius yn y bachgen a anwyd yr un diwrnod ag ef, ei fod yn fab i was ei dad, ac iddo gael ei eni yn y bwthyn oedd ar ran anghysbell o eti- feddiaeth y gwr mawr. Nid oedd gan y naill na'r lla.ll yr un dewisiad yn y mater. Y mae un arall i briodoli y radd a ddeil mewn cymdeithas i'r ffaith ei fod yn berthynas i ryw un a gyflawnodd ryw weithred, a ystyrid yn deil- wng, yn rhywle, ryw bryd, cyn geni ei dad na'i daid. Y mae y lla.ll yn "ennill iddo ei hun radd dda," ac un felly oedd ein cyfaill; canys efe a " wasanaethodd swydd diacon yn dda" am y pum' mlynedd diweddaf o'i oes. Do, efe a'i gwasanaethodd, nid gwisgo yr enw fel y gwna llawer, ni feddant wrthwynebiad i hyny; ond, ysywaeth, dynay cwbl sydd a wneíont â hi; "yn unig galwer dy enw di arnom;" ac oblegid y dosbarth yma y mae ei u henw yn cael ei gablu." Ond llanwodd D. Davies y swydd yn ei holl ranau, yn gyson, ffyddlon, a chyflawn. Gellid dysgwyl hyny oddi- wrtho, canys yr oedd wedi ei fagu mewn eglwys a fendithiwyd â diaconiaid llafurus, gofalus, a ffyddlawn; a diau fod effaith y dygiad i fyny hwnw arno tra yn gwasanaethu y swydd, yr hyn a wnaeth yn gydwybodol a di- fwlch. Yn y cyffredin, y rhai mwyaf anghymhwys i'r swydd sydd yn ei chwennychu fwyaf; edrychant yn unig ar yr anrhydedd sydd yn gysylltedig â hi, heb gofio nad yw yr anrhydedd hwnw yn dyfod i neb ond i'r rhai a'i hennillant; ac mai yr unig ffordd i'w ennill ydyw gwasanaethu y swydd yn dda. Nid oes un gymdeithas yn fwy gonest na chyradeithas y saint; pa beth bynag y mae un yn ei ennill, y mae yn sicr o'i gael; ni welwyd neb erioed ynddi wedi "ennill gradd dda," na fynai hi ei dalu iddo. Ac o'r ochr arall, y mae yr eglwys yn fanol gyfiawn ar y pen hwn, ni rodda hi ddim i neb os na bydd wedi ei ennill. Gwelwyd llawer yn hòni y dylent hwy gael rhyw radd; ond y mae yr eglwys yn berffaith fyddar; os na bydd y radd wedi ei hennill yn deg, ni cha mo hono, pe yr elai i gyfraith am ei gael. Ac nid dyrchafiad bychan fydd i'r gwr y myn yr eglwys ei anrhydeddu. Credwn na byddai yn rhaid i'r un gweinidog deimlo unrhyw bryder am gynnaliaeth oddiwrth yr eglwys pe byddai y diaconiaid yn deall, ac yn gwasanaethu eu swydd yn dda. Yr oedd ein cyfaill wedi arfer edrych ar y swydd gyda pharch, canys yr oeddy rhai welsai efe yn ei gwasanaethu yn haeddu parch, ac yn ei gael; a gwyddai yntau mai trwy ddiwydrwydd, llafur, a ffyddlon- deb mawr yr ennillent hyny: ni chafodd erioed ei ddysgu i wneud dim yn bannerog. Y maepob eglwys yn gadael ei hargraff ar yr holl aelodau a fegirynddi. Lle y mae cronfa o aelodau yn ymgynnull o wahanol eglwysi, eellir dweyd yn fuan o ba eglwys y mae y newydd-ddyfodiaid i'w plith wedi hanu, pe na ddygent unrhyw bapyr o gymeradwyaeth gyda hwy; y maent Mawbth, 1864. h