Skip to main content

Ŵmetljiẁott. JOHN BltYAN, BUTHIîT, "Non Amissa, sed praemissa."—Crp. Bhan o'r gynnysgaeth a adewir gan ddyn duwiol i'w blant ydyw coffadwriaeth barchus yn y byd ar ei ol. Yn wir, y mae yn gynnysgaeth ynddi ei hun, a rnawr fydd cyfrif y plant hyny sydd wedi ei chael. Y mae llawer un yn analluog i adael diro arall; ond y mae pob duwiol yn amcanu at hyn. Ei ewyllys ydyw gadael enw glan yn etifeddiaeth anllygredig i'w blant, a phlant ei blant, hyd yr olaf o'i hiliogaetb. Y mae y teimlad hwn yn ddynol, yn rhin- weddol, yn un i'w ganmol, ac ni ellir beio arno. Y mae yn un o'r profiou goreu o werth moesol, ac yn un o'r cymhellion cryfaf i rinwedd pur. Cofier, pa fodd bynag, mai am goffad- wriaeth yr ydym yn siarad yraa, ac nid am gofiant. Nid oes ond y rhinweddol yn unig yn gofalu am y blaenaf; ond y raae pob math yn gofalu am yr olaf: a'r dynion gwaelaf yn aml, yn mhob cylch, sydd yn gofalu am dano fwyaf. Y mae rhyw ysfa ar rai pobl am gofiant, debyg i'r ysfa hòno sydd ar lawer hogyn penwan am gael tynu ei lun, ac y mae Ile i ofni ei bod yn barhaus ar gynnydd. I foddhau y nwyd hon, fyddo wedi cael ei hamlygu gan y dyn ei hun, neu gan ei gyfeillion ar ol ei gladdu, y mae llawer cofiant broliog a diegwyddor wedi ei ysgrifenu. Nid oes odid fardd yn Nghyraru nad yw yn cael ei fiino gan yr alwad a wneir arno am farwnadau; ac nid oes odid ysgrifenwr, o ddim bri, nad yw yn cael ei lwyr ddiflasu gan yr alwad sydd arno yntau am gofiantau. Hyn, yn ddiammheu, yw yr achos fod yr amgueddfa fywgraffyddol yn ein gwlad wedi ei llenwi âgwehilion mewn addurniadol wisgoedd. Ond nid i feio ar y farwnad, na'r cofiant ynddo ei hun, y dywedwn hyn. Y mae y naill a'r Hall, os yn dda, mor bell ag y maen t yn warogacth ddyledus i wir deilyng- dod, yn cael eu cyfrif genym yn mhlith y caffaelion mwyaf cysegredig a berthyn i'n ClIWEFBOR, 18G4. Henyddiaeth. Dylid canmol rhinwedd He y byddo, a gwna hyny les. Ond pa betb, fel rheol, sydd yn sicrhau cofiant i ddyn yn y dyddiau hyn? Os nad yw yr hen ddull nacaol yn dramgwydd i'r darllenydd, gallwn ateb heb y petrusder lleiaf yn ein meddwl, Nid teilyngdod. Fel prawf o hyn, crybwyll- wn y ffaith hon yn unig. Y mae rhai o gedyrn penaf y weinidogaeth, a meibion glewaf ein cynnulleidfaoedd wedi syrthio, heb neb i alaru pennill neu i ysgrifenu llin- ell ar eu hol; tra y mae beirdd a Uenorion yn ymryson â'u gilydd, mewn cylchgronau a newyddiaduron, i wyngalchu beddau y rhai mwyaf dinod ac anadnabyddus. Buasem yn hoffi dilyn yr holiad uchod trwy gyfeiriadau eraill, a'i ateb mewn ffurf bendant; ond rhaid i ni wneud ein goreu o'r ychydig ofod a ganiateir i ni at y gwas- anaeth sydd genym yn awr mewn llaw. Nid oedd John Bryan yn ddyn o athrylith gref, o ddoniau helaeth, na chyfoeth mawr, ond yr oedd yn ddyn da: yr oedd yn wr cyfiawn, ac yn ofni Duw yn fwy na Hawer. Fel priod, yr oedd yn dyner; fel tad, yn ofalus; fel cymydog, yn hynaws a charedig; fel cyfaill, yn bur a diabsen; fel Cristion, heb dwyll; ac fel diacon, hebeisieuei welJ. Nid am bawb y gellir dweyd y pethau hyn; ac nid yw yn rhyfedd fod y dyn y gellir dweyd pethau fel hyn am dano wedi gadael enw hyfryd iddo ei hun yn y byd ar ei ol. Hyn a wnaeth John Bryan, ac yn sicr, y mae yn deilwng o gofiant da; ond y mae yn ammheus genym a allwn ni wneud un felly iddo. Yr ydym yn ysgrifenu dan lawer o anfanteision i wneud cyfiawnder â phob dygwyddiad hanesyddol yn ei fywyd; ond er hyny, gwnawn ein goreu, a madd- eued ei gyfeillion lluosog i ni os na byddwn wedi adrodd pob peth yn y ffordd oreu. Gallant briodoli hyny i anfedrusrwydd, os mynant, ond nid i anffyddlondeb. Ganwyd John Bryan yn Llanarmon-yn-